Cynhadledd Flynyddol UCAC: 4-5 Ebrill

03 Ebrill 2014

Cynhadledd Flynyddol UCAC: 4-5 Ebrill

Bydd aelodau UCAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau rhybudd digonol a hyfforddiant priodol wrth gyflwyno newidiadau sylweddol i system addysg Cymru. Dyna fydd thema rhai o’r cynigion fydd dan drafodaeth yng Nghynhadledd Flynyddol yr undeb yn yr Wyddgrug ar 4-5 Ebrill.
Meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Bydd llu o gynigion yn dod gerbron aelodau’r undeb am drafodaeth ar bynciau mae athrawon a darlithwyr Cymru’n teimlo’n gryf yn eu cylch.
 
“Byddwn yn croesawu siaradwyr gwadd ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys Owen Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru.
 
“Mae’r Gynhadledd Flynyddol yn gyfle i aelodau UCAC fynegi barn am ddatblygiadau byd addysg a gosod yr agenda o ran ymgyrchu dros y flwyddyn i ddod.
 
“Yn ogystal â hynny, mae’n gyfle i bobl ymlacio, cymdeithasu a chwrdd â chydweithwyr o dros Gymru gyfan.”
 
Nodiadau
 
  • Caiff y Gynhadledd Flynyddol ei chynnal yng Ngwesty’r Beaufort, Yr Wyddgrug ar 4-5 Ebrill 2014
  • Bydd y rhan fwyaf o’r trafodaethau yn y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg
  • Bydd 5 siaradwr gwadd sef:
    • Owen Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru (Dydd Gwener 14.00)
    • Nia Edwards, Delyth Jones a Meriel Parry, penaethiaid/cyn-bennaeth â chyfrifoldeb dros nifer o ysgolion yng Ngwynedd a Phowys (Dydd Gwener, 16.30)
    • Huw Foster Evans, Prif Swyddog GwE, Consortiwm Addysg Gogledd Cymru (Dydd Sadwrn, 11.00)
Mae croeso i chi gysylltu os hoffech gael copi o’r cynigion, neu os hoffech wneud unrhyw drefniadau penodol
 
Dyma rai o’r prif bynciau fydd yn codi:
  • Dyfodol hyfforddiant i Seicolegwyr Addysg yng Nghymru
  • Amodau teg i Benaethiaid ysgolion ffederal
  • Ailfeddwl y Cwrs Meistr mewn Ymarfer Addysgol i osgoi straen ar athrawon newydd gymhwyso
  • Cludiant am ddim i addysg cyfrwng Cymraeg
  • Amser a hyfforddiant digonol wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno newidiadau sylweddol i’r system addysg ac ystyriaeth i lwyth gwaith
Dyma fydd yr amserlen:
 
Dydd Gwener, 4 Ebrill
 
14.00 Owen Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru
14.45-16.15 Trafod cynigion
16.15 Polisïau Cyflog: Diweddariad
16.30-17.00 Dyfodol Ysgolion Ffederal yng Nghymru: siaradwyr gwadd: Meriel Parry, Delyth Jones a Nia Edwards
 
Dydd Sadwrn, 5 Ebrill:
 
09.00-10.30 - Trafod cynigion
11.00-11.45 – Siaradwr gwadd: Huw Foster Evans (Prif Swyddog GwE, Consortiwm Gogledd Cymru)
11.45-13.00 - Trafod cynigion
 
Am fanylion pellach cysylltwch â ni.