Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid dros Gymru gyfan – yr unig undeb addysg sy’n rhoi addysgwyr Cymru’n gyntaf.
Rydyn ni’n cyfuno gwasanaeth ar lefel bersonol gyda grym undebol nerthol wrth ddylanwadu ac ymgyrchu.
Rydyn ni’n angerddol ynghylch cefnogi ac amddiffyn ein haelodau, ac ynghylch gweithio er budd system addysg sy’n gwbl addas i anghenion Cymru a phawb sy’n byw yma.
Mwy o wybodaeth i ddod yn fuan.
Os ydych chi’n hyfforddi i fod yn athro, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim i chi trwy gydol eich hyfforddiant.
Felly os ydych chi’n gwneud gradd BAdd, cymhwyster ôl-radd fel TAR (PGCE), neu’n gwneud doethuriaeth ac yn gwneud rhywfaint o addysgu, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.
Os ydych chi’n Athro Newydd Gymhwyso, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim trwy gydol eich blwyddyn addysgu gyntaf, ac yn hanner pris y flwyddyn ganlynol.
Felly os ydych chi newydd gymhwyso, a heb ymaelodi’n barod, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.
Awst 2025
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bwrsariaeth o bum mil o bunnoedd i annog athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg i aros yn y proffesiwn. Os ydych chi'n athro/athrawes uwchradd cyfrwng Cymraeg neu'n athro/athrawes sy'n addysgu Cymraeg fel pwnc, dilynwch y ddolen isod i ddysgu mwy am y fwrsariaeth. Ac os ydych chi'n gymwys, dilynwch y ddolen sydd o dan y canllawiau, er mwyn cael ffurflen gais.
Mae’r Fwrsariaeth yn gynllun peilot a fydd ar gael hyd ddiwedd 2028.
Darllenwch y canllaw yn ddiymdroi - mae hwn yn gyfle rhy dda i'w golli!
Cynllun Bwrsariaeth Cadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg 2025: canllaw [HTML] | LLYW.CYMRU
Ffurflen gais: Cynllun Bwrsariaeth Cadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg | LLYW.CYMRU
Mehefin 2025
Yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf yn cynnig codiad cyflog o 4% i athrawon ac yn dilyn trafodaeth ynghylch y mater mewn cyfarfod o Gyngor Cenedlaethol yr Undeb, mae UCAC yn datgan ei siom.
Er bod y codiad cyflog yn ymddangos, ar yr olwg gyntaf, yn godiad sylweddol, eto i gyd rhaid nodi nad yw’r codiad hwn yn sicrhau bod cyflogau athrawon yn cymharu’n ffafriol â chyflogau eraill ac nad yw cyflogau athrawon wedi dal i fyny â’r cynnydd mawr mewn cyfraddau chwyddiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn wynebu argyfwng o ran recriwtio a chadw athrawon, ac er mwyn denu athrawon a’u cadw yn y proffesiwn, mae’n rhaid i gyflogau fod yn gystadleuol ac yn apelgar, gan adlewyrchu’r gofynion cynyddol sydd ar y proffesiwn. Teimlai’r Cyngor Cenedlaethol yn gryf hefyd fod angen mynd i’r afael yn ddiymdroi â llwyth gwaith athrawon a phroblemau ymddygiad yn ein hysgolion. Dim ond pan fydd athrawon yn derbyn amodau gwaith anrhydeddus a chyflogau teg ac yn derbyn y parch y maent yn ei haeddu y bydd modd mynd i’r afael â’r argyfwng presennol o ran recriwtio a chadw athrawon.
Yn ogystal â’r siom o safbwynt cynnwys yr adroddiad, mae UCAC hefyd yn siomedig na lynwyd wrth yr amserlen wreiddiol eleni eto o ran amseru’r cyhoeddiad ac nad yw’r cynnig yn cyfateb i argymhelliad CACAC, sef codiad cyflog o 4.8%. Golyga’r oedi na fydd unrhyw godiad cyflog yn cyrraedd y gweithlu tan ymhell i mewn i Dymor yr Hydref. Rhaid mynegi pryder a siom hefyd nad yw’r adroddiad wedi ei gyhoeddi eto yn y Gymraeg ac rydym yn gresynu fod y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Prif Swyddfa UCAC
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2EU
01970 639950
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
©UCAC Holl hawliau ar gadw. Datblygwyd gan AIM Development