Datganoli Tâl ac Amodau Gwaith Athrawon gam yn agosach

9 Mawrth 2018

Datganoli Tâl ac Amodau Gwaith Athrawon gam yn agosach

Ar y diwrnod y lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar sut mae’n bwriadu pennu tâl ac amodau gwaith athrawon, dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae UCAC yn falch iawn i weld y cynigion hyn gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut mae’n bwriadu pennu tâl ac amodau gwaith athrawon Cymru, unwaith y bydd y pwerau wedi’u datganoli.

“Ar ôl degawdau o ymgyrchu a dwyn perswâd gan UCAC - a fu, tan yn ddiweddar, yn llais unig iawn yn y diffeithwch - mae’r cyfle i osod tâl ac amodau gwaith sy’n cyd-fynd â diwylliant ac uchelgais Cymru ar gyfer ein byd addysg o fewn cyrraedd.

“Croesawn yn fawr y cynnig y bydd y tâl ac amodau gwaith yn statudol, ac yn gyson ledled Cymru. Mae hynny’n eithriadol o bwysig er mwyn sicrhau tegwch. Mae’r ymrwymiad i sicrhau y bydd cyflogau o leiaf cyfwerth â chyflogau mewn ysgolion cyfatebol dros y ffin i’w groesawu yn ogystal.

“Edrychwn ymlaen at fwrw’r maen i’r wal, a symud at system sy’n addas i Gymru ac sy’n gydnaws â’n gwerthoedd â’n gweledigaeth.”

DIWEDD

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli  athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.
  • Mae UCAC wedi bod yn ymgyrchu ers 1940 am system addysg annibynnol i Gymru, gan gynnwys yr hawl i bennu tâl ac amodau gwaith athrawon.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.