Dau Sefydliad yn creu problemau i’r Gymraeg

20 Mai 2014

Dau Sefydliad yn creu problemau i’r Gymraeg

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi ymateb i gw?n gan Fudiadau Dathlu’r Gymraeg am y broses o lunio ac ymgynghori ar Safonau mewn perthynas â’r Gymraeg, gan gytuno bod anhawster wedi codi “gan fod dau sefydliad ymhlyg yn y dasg o greu safonau” - sef Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg.

Cododd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg bryderon mewn llythyr at y Comisiynydd a’r Prif Weinidog, Carwyn Jones ddechrau’r mis.

Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, ar ran 26 mudiad, yn credu bod gan y Safonau’r potensial i wella’r gwasanaeth y gall y cyhoedd ei ddisgwyl yn y Gymraeg gan gyrff cyhoeddus ac eraill.
 
Medd Penri Williams, Cadeirydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, “Mae angen sicrhau y bydd y Safonau’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Rhaid iddynt fod yn eglur ac yn ddealladwy i’r cyhoedd, ac mae angen sicrhau fod y ddarpariaeth ar gael heb roi pwysau ar yr unigolyn i’w hawlio.”
 
Fodd bynnag, mewn proses aneglur a dryslyd rhwng mis Ionawr ac Ebrill eleni, ni ymgynghorwyd o gwbl ar y Safonau eu hunain – dim ond ar ba rai ohonynt fyddai’n dderbyniol i Gynghorau Sir ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol.
 
Yn ei hymateb i Fudiadau Dathlu’r Gymraeg, dywed y Comisiynydd, “ymddengys bod cynnwys y rhan helaeth o ymatebion a dderbyniwyd gan aelodau o’r cyhoedd yn ymwneud â’r safonau arfaethedig eu hunain, ac nid ar bwnc yr ymchwiliad safonau. Amlyga hynny y bu dryswch ac mae’n deg casglu i hynny ddigwydd oherwydd y gwahanol ofynion ymgynghori sydd ar y Llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg.”
 
Meddai Penri Williams “Mae teimlad cryf bod y broses wedi cwympo rhwng dwy stôl gyda Llywodraeth Cymru’n llunio’r Safonau, a Chomisiynydd y Gymraeg yn ymgynghori ar sut i’w gweithredu. Mae’r Comisiynydd ei hun wedi cydnabod bod y dryswch hyn yn amlwg yn yr ymatebion gan y cyhoedd.
 
“Gan y bydd y broses hon yn cael ei hailadrodd mewn perthynas â chyrff eraill yn y dyfodol, mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn pwyso ar y Comisiynydd a Llywodraeth Cymru i wella’r broses mewn ymateb i’r pryderon, ac i ymgynghori’n llawn ar y Safonau eu hunain mewn modd fydd yn hygyrch i ddefnyddwyr y gwasanaethau dan sylw, sef y cyhoedd.” 
 
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Penri Williams: 029 20890040 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
 
Rhai o aelodau Mudiadau Dathlu’r Gymraeg (www.dathlu.org):
 
CAER, Cronfa Glyndwr, Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, CYDAG, Cyfeillion y Ddaear, Cymdeithas Alawon Gwerin, Cymdeithas Bob Owen, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cymdeithas y Cymod, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru, Mudiad Meithrin, RhAG, UAC, UCAC, UMCA, UMCB, Urdd Gobaith Cymru.