Gweithio'n hirach: beth fydd yr effaith ar athrawon?

24 Medi 2015

Gweithio'n hirach: beth fydd yr effaith ar athrawon?

Mae Dilwyn Roberts-Young (Is-ysgrifennydd Cyffredinol a Swyddog Maes y Canolbarth a'r De-orllewin) a Mererid Lewis Davies (Swyddog Maes y De-ddwyrain) wedi bod yn mynychu cyfarfodydd cyson yn Llundain fel rhan o adolygiad Llywodraeth San Steffan ar weithio'n hirach.
 
Mae'r adolygiad yn ystyried:
y dystiolaeth am effaith gweithio'n hirach a sut y gellir delio gydag unrhyw rwystrau;
yr arferion cyflogaeth allai gynorthwyo athrawon i weithio'n hirach.
 
Mae UCAC wedi gweithio ar y cyd gydag ASCL, ATL, NAHT, NUT a VOICE i baratoi tystiolaeth i'r adolygiad ac rydym yn ddiolchgar i'r nifer fawr ohonoch ymatebodd i'r holiadur anfonwyd atoch cyn gwyliau’r haf. Mae'r dystiolaeth honno'n cael ei ystyried gan yr undebau hynny a gan lywodraeth San Steffan ond mae cyfle hefyd i chi ymateb yn uniongyrchol i ymgynghoriad fydd ar agor tan y nawfed o Hydref.
 
Mae'r holiadur ar gael yma:
 
Cofiwch gysylltu os ydych am drafod ymhellach a diolch i chi rhag blaen am eich cefnogaeth bellach i sicrhau'r amodau gorau i'n cyd-weithwyr yn y proffesiwn.