TGAU Saesneg Iaith

1 Ebrill 2014

TGAU Saesneg Iaith

Dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC "Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb mor gyflym i'r pryderon sydd wedi cael eu mynegi. Teimla UCAC mai'r neges bwysicaf sy'n deillio o'r sefyllfa hon yw'r angen i sicrhau bod gennym Reoleiddiwr cymwysterau hyd-braich oddi wrth y Llywodraeth cyn gynted â phosib.
 
"Nid oes modd amddiffyn sefyllfa ble mae Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru yn llunio polisi cymwysterau ac wedyn yn dyfarnu ar ei weithrediad. Mi fydd yn hollbwysig bod y lefel priodol o arbenigedd gan staff y Rheoleiddiwr, a bod perthynas a chyfathrebu agos rhyngddo â'r byrddau arholi perthnasol."
 
Am fanylion pellach cysylltwch â: 
 
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. (Swyddog Polisi)