UCAC yn agor balot ar Gontract Cenedlaethol i Addysg Bellach

14 Tachwedd 2013

UCAC yn agor balot ar Gontract Cenedlaethol i Addysg Bellach

Ers dros dair blynedd a hanner, mae’r undebau ar y cyd (AMiE, ATL, GMB, NASUWT, UCAC, UCU, UNISON a UNITE) wedi bod yn negodi gyda CholegauCymru i lunio Contract Cenedlaethol ar gyfer holl staff y sector Addysg Bellach yng Nghymru. UCAC fu’n cadeirio’r undebau ar y cyd.

 
 
Rydym wedi llwyddo i lunio dogfen y mae’r undebau a’r Colegau’n cytuno arni.
 
Balot
 
Rhwng 11-29 Tachwedd, mae UCAC yn cynnal balot o’i haelodau yn y sector i weld a ydynt o blaid mabwysiadu’r Contract ar gyfer y sector.
 
Mae UCAC a phob undeb arall a fu’n rhan o’r trafodaethau yn argymell pleidleisio O BLAID y Contract Cenedlaethol. Rydym o’r farn mai dyma’r ddêl orau y mae modd ei gael ar ran aelodau drwy negodi.
 
Dyma rai o fanteision y Contract Cenedlaethol:
  • mae'n cynnig amddiffyniad sy'n rhwystro colegau unigol, sy'n awyddus i dorri costau, rhag gwaethygu'ch amodau gwaith
  • erbyn 1 Medi 2016 bydd yr holl weithwyr ar Gontract Cenedlaethol
  • bydd yn rhoi hawl cytundebol i raddfa gyflog genedlaethol
  • bydd yn gwahardd contractau dim-oriau (zero-hours)
  • bydd yn rhoi'r hawl i gyflog byw i'r holl weithwyr a gyflogir yn uniongyrchol 
  • wedi'i ddyddio'n ôl i 1 Awst 2013
Er gwybodaeth, mae Asesiad Trawiad Cydraddoldeb wedi’i gynnal ar y Contract Cenedlaethol, a dyma’r datganiad gan yr asesydd:
 
"Following the equality impact assessment work I can see no reason why the common contract cannot be implemented and be compliant with the public sector equality duty. No indication of direct or indirect discrimination was found. Whilst it has raised issues of disproportionate impact on some groups, actions to address or mitigate these, in order to better advance equality of opportunity can be undertaken after the contract is implemented."
 
Dogfennau
  • Crynodeb o’r prif amodau gwaith yn y Contract Cenedlaethol (pdf)
  • Y Cytundeb Llwyth Gwaith ar gyfer Darlithwyr (pdf): mae’r cytundeb hwn yn mynd i fanylder ynghylch oriau a llwyth gwaith darlithwyr yn benodol
  • Y Cytundeb Gweithredu (Implementation Agreement) (pdf): hwn sy’n gosod y telerau ar gyfer rhoi’r Contract Cenedlaethol ar waith; bydd hawl gan Golegau i ddod â’r Contract i rym unrhyw bryd rhwng 1 Ionawr 2014 a 31 Awst 2016; bydd hawl gennych aros ar eich cytundeb presennol, os ydych chi’n dymuno gwneud hynny, tan 31 Awst 2016
  • Y Contract Cenedlaethol: mae gwahanol fersiynau o’r contract (A-J), yn dibynnu ar eich categori (rheolwr/darlithydd/staff cymorth busnes) ac ar eich patrwm gwaith (llawn amser/rhan amser/fesul awr); mae’r mwyafrif o’r darpariaethau yr un fath ym mhob fersiwn, ond mae gwahaniaethau, er enghraifft, ynghylch gwyliau; dim ond un o’r fersiynau fydd yn berthnasol i chi.
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Yn Saesneg yn unig y mae’r Contract a’r Cytundebau ar hyn o bryd. Mae ColegauCymru wedi ymrwymo i ddarparu fersiynau Cymraeg os bydd pleidlais o blaid y Contract.
 
Angen help?
 
Os ydych chi’n aelod o UCAC mewn Coleg Addysg Bellach, ac nad ydych chi wedi derbyn cyfarwyddiadau yngl?n â sut i bleidleisio, a wnewch chi gysylltu â’r swyddfa os gwelwch yn dda:Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 01970 639950.
 
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os ydych chi am drafod unrhyw agwedd o hyn oll cyn bwrw’ch pleidlais, mae croeso mawr i chi gysylltu â Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 01970 639950.