UCAC yn cynnal Arolwg Llwyth Gwaith Athrawon Ysgol

19 Mehefin 2014

UCAC yn cynnal Arolwg Llwyth Gwaith Athrawon Ysgol

Mae UCAC wrthi'n casglu barn aelodau am faterion yn ymwneud â llwyth gwaith. Bydd canlyniadau'r holiadur pwysig hwn yn adlewyrchiad clir o farn a safbwynt aelodau UCAC am y pethau sy'n creu llwyth gwaith gormodol iddyn nhw o ddydd i ddydd.
Bydd pob aelod sy'n athro ysgol wedi derbyn holiadur ar e-bost neu ar ffurf papur a bydd angen cwblhau'r holiadur erbyn dydd Llun, 30 Mehefin.
 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am yr Holiadur, cysylltwch â swyddfa UCAC ar 01970 639 950 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
 
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ddweud eich dweud!