UCAC yn galw am hyfforddiant ym maes Technoleg Gwybodaeth ar frys

26 Ionawr 2016

UCAC yn galw am hyfforddiant ym maes Technoleg Gwybodaeth ar frys

Yn sgil cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Estyn 2014-15 heddiw, mae undeb athrawon UCAC yn galw am sylw brys i faes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) a chymhwysedd digidol.
Mae Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn tynnu sylw at ddiffygion y ffordd y cyflwynir TGCh yn y sectorau cynradd ac uwchradd.
 
“Mewn mwyafrif o ysgolion [cynradd], ceir diffygion pwysig mewn safonau TGCh. Er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn defnyddio TGCh yn briodol ar gyfer prosesu geiriau, ymchwil a chyflwyniadau, nid ydynt yn datblygu’u medrau yn ddigon da mewn elfennau eraill o TGCh...ar draws y cwricwlwm. Dim ond mewn lleiafrif o ysgolion y ceir safonau TGCh da neu well.” (t.41)
 
“Yn y rhan fwyaf o ysgolion [uwchradd]... nid yw disgyblion yn cael digon o gyfle i ddatblygu’u medrau TGCh mewn pynciau ar draws y cwricwlwm. Mae disgyblion yn tueddu defnyddio medrau lefel isel, fel prosesu geiriau neu gynhyrchu cyflwyniadau sleidiau syml. (t.51)
 
A hynny er bod y:
“...rhan fwyaf o ddisgyblion yn ddefnyddwyr TGCh brwd ac yn gyffredinol maent yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd anghyfarwydd yn gyflym.” (t.51)
 
Ym mis Medi eleni, caiff Fframwaith Cymhwysedd Digidol ei gyflwyno yn ysgolion Cymru – fframwaith trawsgwricwlaidd yn yr un modd â’r Fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd sydd eisoes wedi dod i rym. Golyga hyn y bydd disgwyl i bob athro ysgol, ym mhob cyfnod addysg, ac ym mhob pwnc ystyried plethu sgiliau digidol i’w gwersi.
 
Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae’r Prif Arolygydd yn pwysleisio pwysigrwydd sgiliau fydd yn caniatáu i bobl ifanc gael mynediad i fyd digidol heddiw ac yfory mewn modd hyderus ac annibynnol – ac mae UCAC yn cytuno’n llwyr â hynny.
 
“Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ddiffygion yn y ddarpariaeth bresennol - heb sôn am ofynion ychwanegol a ddaw o fis Medi ymlaen yn sgil cyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd. 
 
“Gwyddom fod diffyg hyder ymhlith llawer yn y proffesiwn ynghylch sgiliau digidol yn sgil diffyg cyfleoedd hyfforddiant. O ganlyniad, mae llawer fawr iawn o nerfusrwydd ac anwybodaeth ynghylch cyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd.
 
“Mae Adroddiad y Prif Arolygydd yn atgyfnerthu’r angen am hyfforddiant buan a thrwyadl i athrawon yn y maes hollbwysig hwn, ac mae UCAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r sicrwydd hynny i athrawon ledled Cymru cyn gynted â phosib.”
 
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rebecca Williams ar 01970 639 950 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.