UCAC yn rhoi croeso gwresog i argymhellion Comisiwn Silk

4 Mawrth 2014

UCAC yn rhoi croeso gwresog i argymhellion Comisiwn Silk

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi ymateb yn ffafriol i argymhellion y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (y Comisiwn Silk) a gyhoeddwyd heddiw.
 
Mae’r undeb yn croesawu’n arbennig yr argymhelliad y dylid datganoli’r cyfrifoldeb dros gyflogau ac amodau gwaith athrawon.
 
Meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Ar adeg pan mae polisïau addysg yng Nghymru a Lloegr yn gynyddol wahanol i’w gilydd, nid oes unrhyw synnwyr mewn cadw system tâl ac amodau gwaith ar y cyd. Mae’n b?er sydd wedi’i ddatganoli eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac rydym yn eithriadol o falch bod y Comisiwn wedi gwneud argymhelliad clir ar y mater hwn.
 
“Mae argymhellion y Comisiwn mewn perthynas ag Addysg Uwch a’r Cynghorau Ymchwil yn gadarnhaol - cytunwn yn llwyr fod angen gwell dealltwriaeth, a fwy o ystyriaeth i anghenion penodol Cymru wrth wneud penderfyniadau yn y meysydd hyn.
 
“Yn ogystal, rydym yn croesawu’r argymhelliad o blaid model datganoli ble cedwir pwerau’n ôl – unwaith eto, yr un model ag sydd ar waith yn llwyddiannus yn Yr Alban. Mae diffyg eglurder ynghylch ffiniau cyfrifoldeb y setliad presennol wedi bod yn faen tramgwydd ers yn rhy hir. 
 
“Mae hwn yn adroddiad eithriadol o bositif, yn llawn argymhellion a fydd yn arwain at well lywodraethiant i Gymru. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld gweithredu’r cynigion yn y dyfodol agos.”
 
Am fanylion pellach cysylltwch â Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.