Wythnos o weithredu: HeartUnions, 8-14 Chwefror 2016

3 Chwefror 2016

Wythnos o Weithredu: HeartUnions, 8-14 Chwefror 2016

Mae HEARTUNIONS yn rhan o weithgareddau ehangach i amddiffyn undebau llafur rhag ymosodiadau mileinig Bil Undebau Llafur Llywodraeth San Steffan.

 
 
Ar 26 Ionawr pleidleisiodd Aelodau Cynulliad i wrthod cefnogi'r Bil ond mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn anghytuno am hawl Cymru i wrthod gweithredu'r gofynion os daw'r Bil yn gyfraith.
 
Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf bydd T?'r Arglwyddi yn trafod y Bil Undebau Llafur. Os bydd y Bil yn cael ei basio, bydd yr hawl i undebau llafur streicio o dan fygythiad.
 
Rhwng 8 a 14 Chwefror 2016, bydd TUC a'r holl undebau llafur sy'n aelodau o'r TUC, gan gynnwys UCAC, yn cynnal wythnos o weithredu yn erbyn y Bil Undebau Llafur. Gelwir yr wythnos yn heartunions a bydd yn arddangos y gwaith hanfodol y mae undebau llafur yn ei wneud - a dweud wrth y cyhoedd yn ehangach pam mae'r Bil Undebau Llafur yn bygwth hyn. 
 
Am ragor o wybodaeth, ac i weld sut allwch chi gyfrannu at yr wythnos o weithredu, lawrlwythwch y llythyr yma neu ewch i'r wefan: http://heartunions.org/
 
Cofiwch ddilyn cyfrif trydar UCAC am ddiweddariadau yn ystod yr wythnos (@AthrawonCymru)