Dyma flaenoriaethau polisi UCAC ar gyfer yr etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016. Cliciwch ar y blaenoriaethau isod i gael darllen mwy.

1. Model o system tâl ac amodau gwaith cenedlaethol i athrawon Cymru

Cyd-destun:

Mae’r mwyafrif helaeth o gyfrifoldebau dros bolisi addysg eisoes wedi’u datganoli i Gymru. Un o’r prif eithriadau yw maes tâl ac amodau gwaith athrawon. Argymhellodd y Comisiwn Silk y dylid datganoli’r grym dros dâl ac amodau gwaith athrawon.

Yr angen am newid:

Erbyn heddiw, mae polisïau addysg Cymru a Lloegr yn dra gwahanol i’w gilydd, a chyda phob polisi newydd mae’r gwahaniaethau’n tyfu. 
 
Er bod y broses o wneud penderfyniadau ynghylch tâl ac amodau gwaith athrawon, yn dechnegol, yn broses Cymru-a-Lloegr, Gweinidog Addysg San Steffan sy’n rhoi cylch gorchwyl i’r School Teachers Review Body a’r Gweinidog hwnnw sy’n derbyn eu hargymhellion. Nid oes unrhyw amheuaeth mai syniadaeth a blaenoriaethau polisi Llywodraeth San Steffan sy’n gyrru’r agenda, ac mae’r penderfyniadau’n gynyddol anghydnaws â system addysg Cymru a chyfeiriad polisi addysg Llywodraeth Cymru (e.e. rhoi grym i ysgolion unigol wneud penderfyniadau ar gyflog athrawon). 
 
Mae ymgais gref wedi bod yng Nghymru, ar lefel y consortia rhanbarthol a’r undebau llafur, i gadw cymaint o gysondeb â phosib rhwng tâl ac amodau gwaith athrawon ledled Cymru, drwy lunio polisïau enghreifftiol; ond mae’r gwaith wedi cymryd oriau dirifedi, ac yn mynd yn gynyddol anodd gyda chyhoeddiad pob Dogfen Cyflog ac Amodau blynyddol newydd. Yn ogystal, mae’r llwyth gwaith i lywodraethwyr a phenaethiaid wedi cynyddu’n aruthrol yn sgil y newidiadau diweddaraf.
 
Mae UCAC o’r farn bod y drefn bresennol yn gwbl anghynaladwy. Petai’r pwerau yn nwylo Llywodraeth Cymru byddai ganddi’r grym i fynd i’r afael â materion pwysig sydd, ar hyn o bryd, y tu hwnt i’w rheolaeth (e.e. llwyth gwaith gormodol athrawon; sefyllfa athrawon cyflenwi) – a hynny heb fawr o resymeg na chyfiawnhad. Rhaid felly dechrau ar broses a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer trefn ddatganoledig.
 

2. Sefydlu trefn ar gyfer cynllunio’r gweithlu addysg yn effeithiol

Cyd-destun:

Ar hyn o bryd, nid oes data digonol ynghylch medrau’r gweithlu addysg (gan gynnwys medrau ieithyddol) i allu gwneud dadansoddiad dibynadwy o’r bylchau a’r anghenion. Mae adroddiad Yr Athro Furlong ‘Addysgu Athrawon Yfory’ yn mynd i’r afael â Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon, a rhaid gweithredu ar sail yr adroddiad hwnnw; yn ogystal mae’r Fargen Newydd ar gyfer datblygiad proffesiynol athrawon a darlithwyr yn yr arfaeth. Nid oes gan unrhyw gorff yng Nghymru’r cyfrifoldeb dros hyrwyddo’r proffesiwn a sicrhau bod niferoedd digonol ac ymgeiswyr addas yn cael eu denu i hyfforddi i fod yn rhan o’r gweithlu addysg.

Pam bod hyn mor bwysig:

Mae’r diffyg data, dadansoddi a hyrwyddo yn golygu bod bylchau yn y gweithlu; mae hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â swyddi arweinyddol, pynciau yn y sector cyfrwng Cymraeg a gwasanaethau cefnogi megis seicolegwyr addysg a therapyddion iaith a lleferydd. Er mwyn cael system addysg effeithlon, rhaid gallu rhagweld pa fathau o staff fydd eu hangen yn y tymor byr, a’r tymor hirach, a mynd i ati i sicrhau’r ddarpariaeth honno, drwy recriwtio a hyfforddi.
 

3. Yn y Cyfnod Sylfaen, amddiffyn y cymarebau staff:plant

Cyd-destun:

Cafodd y Cyfnod Sylfaen ei gyflwyno’n statudol yn ysgolion Cymru yn 2008 a’i weithredu’n llawn ar gyfer plant 3-7 mlwydd oed erbyn mis Medi 2011. Un o seiliau pwysicaf y Cyfnod Sylfaen, ochr yn ochr â’i hathroniaeth o Ddysgu drwy Wneud a Chwarae, yw’r cymarebau oedolion i blant, sef 1:8 ar gyfer plant o 3-5 oed, a 1:15 ar gyfer plant 5-7 oed. Llwyddwyd i gyrraedd y cymarebau hyn drwy sicrhau bod athro ym mhob dosbarth meithrin yn ogystal â nifer o gynorthwywyr dosbarth.

Pam bod hyn mor bwysig:

Mae methodoleg y Cyfnod Sylfaen yn golygu bod plant yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau ar unrhyw adeg; nid ydynt yn eistedd wrth ddesgiau gyda phawb yn canolbwyntio ar yr athro. Gall rhai fod dan do, ac eraill yn yr awyr agored. Mae’r lefelau staffio yn angenrheidiol nid yn unig ar gyfer sicrhau diogelwch y plant, ond yn ogystal, i sicrhau eu bod nhw wir yn dysgu yn sgil yr amrywiaeth o weithgareddau. 
 
Gall y lefelau staffio ar y raddfa hon helpu i adnabod Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gynnar, a sicrhau y gwneir cais am gefnogaeth gynnar.
Mae’n hollbwysig bod athro cymwys yng ngofal pob dosbarth meithrin, er mwyn gosod cyfeiriad yr hyn sy’n digwydd yn y dosbarth, rheoli’r staff cynorthwyol a chynnal safonau. Cynorthwyo yw priod waith cynorthwywyr dosbarth, ac annheg ac amhriodol yw gosod y cyfrifoldeb dros ddosbarth cyfan ar eu hysgwyddau nhw.

Y bygythiad:

Yn sgil toriadau difrifol i gyllidebau Awdurdodau Lleol, rydym yn ymwybodol bod y cymarebau yn llithro de facto mewn lleoliadau ar draws Cymru, a bod trafodaethau ynghylch newid y cymarebau’n swyddogol. Gwyddom hefyd am nifer cynyddol o achosion o ddosbarthiadau heb athro cymwys. Mae newidiadau o’r fath yn fygythiad i safonau addysgol.

4. Yn y Cyfnod Sylfaen, sicrhau bod athro cymwys yng ngofal pob dosbarth meithrin

Cyd-destun:

Cafodd y Cyfnod Sylfaen ei gyflwyno’n statudol yn ysgolion Cymru yn 2008 a’i weithredu’n llawn ar gyfer plant 3-7 mlwydd oed erbyn mis Medi 2011. Un o seiliau pwysicaf y Cyfnod Sylfaen, ochr yn ochr â’i hathroniaeth o Ddysgu drwy Wneud a Chwarae, yw’r cymarebau oedolion i blant, sef 1:8 ar gyfer plant o 3-5 oed, a 1:15 ar gyfer plant 5-7 oed. Llwyddwyd i gyrraedd y cymarebau hyn drwy sicrhau bod athro ym mhob dosbarth meithrin yn ogystal â nifer o gynorthwywyr dosbarth.

Pam bod hyn mor bwysig:

Mae methodoleg y Cyfnod Sylfaen yn golygu bod plant yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau ar unrhyw adeg; nid ydynt yn eistedd wrth ddesgiau gyda phawb yn canolbwyntio ar yr athro. Gall rhai fod dan do, ac eraill yn yr awyr agored. Mae’r lefelau staffio yn angenrheidiol nid yn unig ar gyfer sicrhau diogelwch y plant, ond yn ogystal, i sicrhau eu bod nhw wir yn dysgu yn sgil yr amrywiaeth o weithgareddau. 
 
Gall y lefelau staffio ar y raddfa hon helpu i adnabod Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gynnar, a sicrhau y gwneir cais am gefnogaeth gynnar.
Mae’n hollbwysig bod athro cymwys yng ngofal pob dosbarth meithrin, er mwyn gosod cyfeiriad yr hyn sy’n digwydd yn y dosbarth, rheoli’r staff cynorthwyol a chynnal safonau. Cynorthwyo yw priod waith cynorthwywyr dosbarth, ac annheg ac amhriodol yw gosod y cyfrifoldeb dros ddosbarth cyfan ar eu hysgwyddau nhw.

Y bygythiad:

Yn sgil toriadau difrifol i gyllidebau Awdurdodau Lleol, rydym yn ymwybodol bod y cymarebau yn llithro de facto mewn lleoliadau ar draws Cymru, a bod trafodaethau ynghylch newid y cymarebau’n swyddogol. Gwyddom hefyd am nifer cynyddol o achosion o ddosbarthiadau heb athro cymwys. Mae newidiadau o’r fath yn fygythiad i safonau addysgol.
 

5. Dileu’r profion Darllen a Rhifedd cenedlaethol ar gyfer plant y Cyfnod Sylfaen

Cyd-destun:

Yn sgil pryderon am lefelau llythrennedd a rhifedd disgyblion Cymru, a diffyg sylw i’r meysydd hynny ar draws y Cwricwlwm, cyflwynwyd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yn 2013. Cynhaliwyd y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol am y tro cyntaf ym mis Mai 2013, ac fe’u cynhaliwyd bob blwyddyn ers hynny. Disgyblion blynyddoedd 2-9 sy’n sefyll y profion.

Yr angen am newid:

Yn dilyn gweinyddiad y profion bob blwyddyn, mae UCAC wedi casglu barn aelodau. Yr un neges gwbl gyson gan aelodau ar draws Cymru, tair blynedd yn olynol, yw’r ffaith bod y profion yn gyfan gwbl anghyson gydag ethos a methodoleg y Cyfnod Sylfaen (Blwyddyn 2). 
 
Mae methodoleg y Cyfnod Sylfaen yn annog plant i ymchwilio, i drafod efo’u cyd-ddisgyblion a chwestiynu. Mae’r profion cenedlaethol yn hollol groes i’r athroniaeth hyn. O’r herwydd, mae’r profion yn aml yn creu panig ymhlith y plant ac yn gallu tanseilio’u hyder mewn ffordd niweidiol.
 
“Roedd yn brofiad torcalonnus i weld fy mhlant bach hyderus yn gofidio oherwydd yn ystod y profion cawsant eu rhannu i fyny, methu siarad gyda phartner/grŵp neu ofyn am help yr athrawes. Roedd un bachgen yn crafu ei fraich ac wedi torri’r croen gyda nerfau.”
 

6. Trawsnewid effeithlonrwydd dysgu Cymraeg Ail Iaith

Cyd-destun:  

Ym mis Gorffennaf 2012, sefydlwyd grŵp gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, dan gadeiryddiaeth Yr Athro Sioned Davies, i adolygu Cymraeg Ail Iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 er mwyn ystyried sut i fynd i’r afael â safonau a chyrhaeddiad isel yn y pwnc. Cyhoeddwyd adroddiad y Grŵp ym mis Medi 2013 sef ‘Un Iaith i Bawb’, ac ym mis Mai 2014 cafodd yr holl argymhellion eu derbyn, eu derbyn mewn egwyddor neu eu cyfeirio at adolygiad Yr Athro Graham Donaldson o’r cwricwlwm a threfniadau asesu gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau.

Pam bod hyn mor bwysig:

Dylai pob disgybl ysgol yng Nghymru gael y cyfle i ddod yn ddinasyddion rhugl dwyieithog yn nwy iaith y wlad; mae hynny’n fater o degwch o ran cyfleoedd gwaith ond yn ogystal yn agor drysau diwylliannol. Mae dwyieithrwydd wedi’i brofi’n ased o ran datblygiad gwybyddol, ac yn gallu gosod sail gadarn ar gyfer dysgu rhagor o ieithoedd. Er bod y Gymraeg yn bwnc gorfodol hyd at 16 oed yn ysgolion Cymru (ac mae’r Athro Donaldson yn argymell bod hynny’n parhau), am amryw o resymau sy’n cael eu hamlygu yn adroddiad yr Athro Davies nid yw’r fethodoleg bresennol yn llwyddo i greu unigolion dwyieithog. Mae angen gweithredu ar fyrder i sicrhau bod disgyblion ac athrawon yn gwneud gwell defnydd o’r cyfle cwricwlaidd gwerthfawr hwn.
 

7. Sicrhau cludiant am ddim, neu ostyngol, i addysg neu hyfforddiant ôl-16

Cyd-destun:

Yng Nghymru, mae addysg a hyfforddiant ôl-16 yn anstatudol; h.y. gellir gadael yr ysgol yn 16 mlwydd oed. Yn Lloegr, mae newid wedi bod yn ddiweddar sy’n golygu y bydd unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Medi 1997 yn gorfod aros mewn addysg neu hyfforddiant tan eu bod yn 18 oed. Mae rhesymau da gan Lywodraeth Cymru dros adael yr oedran gadael yn 16, a’i hagwedd hi yw annog a chymell pobl ifanc i aros ymlaen yn hytrach na’u gorfodi.
Pam bod hyn mor bwysig? Mae cael poblogaeth a gweithlu gyda sgiliau sylfaenol da, a sgiliau uchel mewn amrywiaeth eang o feysydd yn hollbwysig ar gyfer economi Cymru, ac er mwyn iechyd, lles a llewyrch poblogaeth y wlad. Gwyddom fod gennym broblemau o ran sgiliau sylfaenol, a sgiliau uwch, a bod angen gwneud popeth i ddatblygu cyfleoedd addas ac atyniadol i’n pobl ifanc ar draws ystod o alluoedd a meysydd.

Beth yw’r bygythiad:

Yn sgil toriadau difrifol i gyllidebau Awdurdodau Lleol, mae gwasanaethau anstatudol yn cael eu targedu. Un o’r rhain yw cludiant am ddim, neu gludiant gostyngol i bobl ifanc 16-19 oed. Mae UCAC o’r farn y byddai torri ar y gwariant hwn yn golygu y byddai teithio i gael addysg neu hyfforddiant ôl-16 yn rhy ddrud i lawer o bobl ifainc a’u teuluoedd. Byddai’r effaith fwyaf yn debygol o fod ar y rheiny sy’n byw mewn tlodi, gan gynyddu’r tebygolrwydd - sydd eisoes yn uchel - y byddant yn eithrio'u hunain o hyfforddiant neu addysg bellach ac yn dod yn ‘NEET’, gyda’r holl broblemau sy’n dod yn sgil hynny o ran cyflogadwyedd a sgiliau bywyd.
 

8. Amddiffyn cyllideb y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cyd-destun:

Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011 er mwyn sicrhau mwy o gyfleoedd astudio i fyfyrwyr cyfrwng Gymraeg yn y sector Addysg Uwch. Dyrannwyd grantiau israddedig ac uwchraddedig, mae dros 100 o ddarlithwyr newydd wedi’u penodi, mewn meysydd amrywiol iawn, a dros 1,000 o wahanol gyrsiau yn cael eu cynnig.

Pam bod hyn mor bwysig:

Yn draddodiadol, dim ond mewn nifer cyfyngedig o feysydd y mae cyrsiau cyfrwng Cymraeg wedi bod ar gael yn y sector addysg uwch. Mae angen pobl cymwys mewn amrywiaeth eang o feysydd arbenigol, ac sydd â’r sgiliau i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg, ar economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae’r Coleg Cymraeg, drwy gydweithio â holl brifysgolion Cymru, yn helpu i ateb y galw hwnnw.

Beth yw’r bygythiad:

Gyda chyllidebau’n gwasgu, mae peryg y bydd rhai’n gweld toriadau i lif ariannol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darged rhwydd. Ond mae angen i’r buddsoddiad yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fod yn un hirdymor os ydyw am fod yn effeithiol; byddai torri nawr yn ergyd i’r gwaith rhagorol sydd wedi’i gyflawni eisoes.
 

 

I lawrlwytho copi o flaenoriaethau UCAC, cliciwch YMA (PDF)