Croesawu canslo arholiadau – ond angen eglurder ar frys

10 Tachwedd 2020 

Mae undeb addysg UCAC wedi croesawu penderfyniad y Gweinidog Addysg heddiw i ganslo arholiadau allanol ar gyfer TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn ystod haf 2021, ac i roi trefniadau asesu amgen yn eu lle.

Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol a Swyddog Polisi UCAC “Bydd y cyhoeddiad hwn yn rhyddhad o’r mwyaf i ysgolion ledled Cymru. Nid oes modd amgyffred cynnal arholiadau allanol mewn modd sy’n rhoi tegwch i ddisgyblion dan yr amgylchiadau presennol ac nid oes unrhyw sicrwydd y bydd yr amodau’n caniatáu hynny yn yr haf.

“Mae’r penderfyniad hwn yn golygu y bydd trefniadau amgen yn eu lle ac na fydd angen gwneud newidiadau disymwth, funud olaf, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr iawn.

“Rydym yn cytuno gyda’r Gweinidog mai dyma’r opsiwn gorau o safbwynt sicrhau lles a thegwch ar draws y system mewn blwyddyn ble mae tarfu ar addysg disgyblion yn anorfod, er gwaethaf ymdrechion gorau pawb. Yn ogystal, mae’n ymestyn y cyfnod dysgu ac addysgu’n sylweddol, fydd yn help i roi darpariaeth lawn er gwaethaf unrhyw darfu.

“Nodwn fod Grŵp wedi’i sefydlu i bennu manylder y trefniadau asesu amgen. Mae llawer o waith i’w wneud, a thrafodaethau manwl a thechnegol i’w cael. Mi fydd yn bwysig cael y penderfyniadau’n gywir yn arbennig o safbwynt faint o’r trefniadau’n sy’n digwydd yn fewnol yn yr ysgolion a faint o rôl fydd gan CBAC neu eraill er mwyn sicrhau cysondeb.

“Pwyswn fodd bynnag am argymhellion a phenderfyniadau buan - yn ddelfrydol erbyn diwedd 2020 - i ganiatáu i ysgolion rhoi’r trefniadau priodol yn eu lle, ac i ddisgyblion gael deall sut byddant yn cael eu hasesu. Tra bod ansicrwydd yn para, bydd athrawon a disgyblion yn parhau i bryderu.”

Am fanylion pellach cysylltwch â:

01970 639950 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.