UCAC yn croesawu camau gofalus tuag at newid mesurau Covid mewn ysgolion

25 Ionawr 2022

Mewn ymateb i gyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles AoS heddiw, dywedodd Rebecca Williams, Is-Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Rydym yn croesawu penderfyniadau diweddaraf Llywodraeth Cymru i symud mewn modd gofalus a graddol tuag at addasu’r mesurau Covid sydd yn eu lle mewn ysgolion, a dychwelyd i’r fframwaith penderfyniadau lleol.

“Y flaenoriaeth ar draws y system addysg yw cadw dysgwyr a staff yn iach, ac yn yr ysgol, yn parhau gyda’r addysgu a’r dysgu. Mae parhau am y tro i wneud gorchuddion wyneb yn ofynnol yn elfen ganolog a chwbl rhesymol o’r strategaeth i wneud hynny.

“Mae’n debygol iawn y bydd penderfyniadau’n dychwelyd i’r lefel leol ar ôl hanner tymor, wedi’u seilio ar asesiadau risg mewn awdurdodau lleol ac ysgolion unigol.

“Nodwn yn ogystal  y bwriad i barhau i gynnal cyfres arholiadau’r haf. Gobeithiwn y bydd hynny’n rhoi gymaint o sicrwydd ag sy’n bosib dan yr amgylchiadau presennol i ddisgyblion ac i staff.”

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

Rebecca Williams: 07787 572180 / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.