Cynhadledd Amgen UCAC 2021
Oherwydd sefyllfa'r pandemig, mae UCAC yn cynnal Cynhadledd Amgen ar-lein eleni ar gyfer ein holl aelodau. Bydd yn cynnwys nifer o sesiynau fydd yn ystyried lles staff a’r heriau sy’n ein hwynebu wrth i ni edrych i’r dyfodol.
Ymunwch gyda chyd-aelodau ar gyfer tair noson a drin a thrafod addysg.
Dydd Llun 19 Ebrill 2021 | 6- 7 o'r gloch
Covid a thu hwnt – Pwy sy’n poeni am eich lles?
Dr Hanna Hopwood Griffiths
Cyflwynydd Gwneud Bywyd yn Haws, BBC Radio Cymru a Darlithydd y Gymraeg yn Rhagoriaith, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Aeron Rees
Pennaeth Cwricwlwm a Lles, Sir Gaerfyrddin
Bydd Angharad Jones a Sion Walker cyd swyddogion Aeron Rees yn ymuno gyda'r sesiwn ma hefyd.
Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn isod:
https://tocyn.cymru/cy/event/d0a8a12f-c4ca-4eb3-aa04-4fe508fa67c2
**********************************************************************************
Dydd Mawrth 20 Ebrill 2021 | 6 - 7 o'r gloch
Dysgu'n ddigidol – beth ydym wedi dysgu ers covid 19?
Dilwyn Owen
Pennaeth TGCh, Ysgol Gyfun Bro Morgannwg
Peter Thomas
Ymgysylltiad Rhanddeiliaid Hwb Uwch
Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn isod:
https://tocyn.cymru/cy/event/46b5b46e-8e57-4a76-8e1d-29f72fab3290
******************************************************************************
Dydd Mercher 21 Ebrill 2021 | 6 - 7 o'r gloch
Ai dyma’r amser i gyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru?
Bydd y Cwrwicwlwm newydd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:
- dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
- cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd
- unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn isod:
https://tocyn.cymru/cy/event/17539306-f774-4b14-b624-36495d52a5f1
Hamper o nwyddau i’w ennill!
Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb.
Felly byddai UCAC, mewn cydweithrediad â llu o gwmnïau Cymreig, yn hoffi rhoi’r cyfle i aelod ennill hamper o nwyddau i gynnal yr enaid!
Bydd enwau pob aelod sy’n mynychu un o sesiynau Cynhadledd Amgen UCAC eleni (19-21 Ebrill) yn cael eu rhoi yn yr het i gael cyfle i ennill.
Felly cofrestrwch nawr i fynychu un neu fwy o sesiynau’r Gynhadledd – ac efallai mai chi fydd yr aelod lwcus!
Caiff yr enillydd ei gyhoeddi ar 23/04/21