Canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Gweithlu Addysg

6 Ebrill 2017

Canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Gweithlu Addysg yn cadarnhau canfyddiadau ymchwil UCAC ar lwyth gwaith

Mae UCAC yn croesawu datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet Dros Addysg ar ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Gweithlu Addysg. Rydym yn cefnogi cynnal Arolwg o’r fath bob 2-3 blynedd fel bod modd gweld sut mae pethau’n newid dros amser.  
 
“Nid yw’r canlyniadau yn syndod o gwbwl i ni fel Undeb. Yn wir, mae’r canlyniadau yn cadarnhau canfyddiadau ymchwil UCAC ar lwyth gwaith ac eto holiadur diweddar iawn gan UCAC am Recriwtio a Chadw o fewn y proffesiwn (Mawrth 2017), ond mae’n dystiolaeth pwysig,” medd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.
 
“Mae UCAC yn teimlo bod gennym Ysgrifennydd Cabinet y gallwn gydweithio â hi er lles addysg yng Nghymru, a’n haelodau’n gyffredinol, rhywbeth a bwysleisiodd tra’n annerch aelodau UCAC yn ein cynhadledd flynyddol ym Mhlas Gregynnog dros y penwythnos. Wrth groesawu’r datganiad yma, pwysleisiwn bod y canlyniadau’n cadarnhau yr hyn mae UCAC wedi amlygu ers blynyddoedd - bod rhaid gwneud rhywbeth i leihau llwyth gwaith gormodol athrawon a darlithwyr addysg bellach,” meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.
 
“Croesawn y ffaith bod yr Ysgrifennydd am geisio delio efo hyn ‘fel blaenoriaeth.’ Mae 88% o athrawon yn nodi eu bod yn methu rheoli baich gwaith o fewn oriau cytunedig. Mae hyn yn adlewyrchu’r 90% a nododd bod ganddynt lwyth gwaith gormodol yn holiadur UCAC.”
 
“Nododd UCAC yn ddiweddar ein bod yn teimlo fod Addysg yng Nghymru yn wynebu argyfwng gan fod cynifer am adael y proffesiwn ac mae’r datganiad y prynhawn yma wedi atgyfnerthu ein barn. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth weithredu ar frys i leihau’r baich gwricwlaidd, y gwaith papur beichus a’r atebolrwydd mewnol ac allanol sy’n rhan o addysg ar y funud.”
 
Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag UCAC ar 01970 639 950 / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.