Canlyniadau Arolwg Gweithio'n Hirach UCAC

8 Mehefin 2015

Canlyniadau Arolwg Gweithio'n Hirach UCAC

Mae UCAC wedi cynnal arolwg sy'n edrych ar deimladau'n haelodau wrth wynebu'r posibilrwydd o weithio'n hirach. Mae'r Undeb wedi mynychu nifer o gyfarfodydd yn San Steffan ble mae'r llywodraeth, ar y cyd gyda'r undebau athrawon a'r rhai sy'n cynrychioli'r cyflogwyr, wedi bod yn ystyried oblygiadau gweithio'n hynach. Mae'r undebau wedi holi barn ein haelodau a'r holiaduron hynny bellach yn cael eu dadansoddi. Byddant yn adnodd allweddol wrth i ni gynrychioli'n haelodau mewn trafodaethau gyda'r llywodraeth newydd.
 
Mae UCAC yn eithriadol o ddiolchgar am yr ymatebion gan groesdorriad o athrawon dosbarth, arweinyddion a phenaethiaid o bob oedran ac ar draws y sectorau. Yr oedd yn agos i unfrydiaeth na ellid parhau 'i weithio nes fy mod yn 68 mlwydd oed' a chydnabyddiaeth mai anodd fyddai cael swyddi amgen ym maes addysg.
 
Roedd ystyriaeth i'r heriau o weithio yn hynach gan gynnwys llwyth gwaith, gweithio oriau hir a'r holl newidiadau ym myd addysg. Mynegodd un ymatebydd rwystredigaeth na theimlai y byddai'n gallu 'rhoi yr un chwarae teg ac ymroddiad' mewn hinsawdd ble 'mae'r disgwyliadau'n newid' a ble nad 'y plant sy'n bwysig rhagor ond y data'. Roedd rhai o'r sylwadau'n ddirdynnol: 'nid oes gan bobl 68 mlwydd oed yr egni na'r gallu corfforol i addysgu plant na phobl ifanc i'w llawn potensial. Er fy mod yn fy nauddegau, yn mwynhau addysgu a gwneud gwahaniaeth i fywydau plant Cymru, rwyf eisoes yn teimlo ei fod yn amharu ar fy iechyd meddwl oherwydd y pwysau gwaith, llwyth gwaith, pwysau i gyrraedd lefelau'.
 
Cyfeiriodd un ymatebydd at yr anghysondeb o ran y 'disgwyliadau afrealistig gwleidyddol a'r hyn sy'n bosibl ei gyflawni mewn ystafell ddosbarth'. Soniodd sawl ymatebydd am weithio dros 60 awr yr wythnos ond 'er hynny'n parhau i deimlo nad yw rhywun wedi gwneud digon erbyn diwedd yr wythnos. Gall hynny ddim fod yn gynaliadwy hyd at 68 mlwydd oed'. Yn ôl un ymatebydd 'mae addysgu'n gofyn am egni, elfen o berfformio, oriau hir o farcio a pharatoi ar ôl gwaith. Mae gwneud hyn yn fy nhridegau yn flinedig iawn a dim tegwch o ran bywyd personol a bywyd gwaith. Mae gofyn am hyn tan fy mod yn 68 mlwydd oed yn chwerthinllyd ar y gorau ond yn hollol anymarferol ac annheg'.
 
Roedd yr arolwg yn ystyried arferion cyflogaeth allai gefnogi athrawon i weithio'n hirach ac roedd cefnogaeth i leihau oriau gwaith, cynyddu amser Cynllunio, Paratoi ac Asesu (CPA) ac ymddeol graddol. Fodd bynnag, peth o'r rhwystredigaeth oedd diffyg eglurder o ran yr hyn sy'n bosib gyda'r Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfyngiadau yn y cynllun pensiwn. Mae'n ddiddorol nodi'r ymdeimlad bod rhagfarn yn erbyn athrawon hyn a'r ymdeimlad nad oes unrhyw arferion da yn digwydd mewn ysgolion i gynnal athrawon wrth iddynt fynd yn hynach. O ystyried yr ymatebion a phrofiadau swyddogion maes UCAC, mae'n amlwg nad yw'r byd addysg wedi mynd i'r afael â chefnogi athrawon gydag anableddau.
 
Unwaith eto, rydym yn eithriadol o ddiolchgar i'n haelodau chi am gyfrannu at drafodaeth mor hanfodol i'r proffesiwn. Byddwn yn eich diweddaru am y trafodaethau fydd yn ail-ddechrau ddiwedd mis Mehefin.