Croesawu £36m ychwanegol i leihau niferoedd mewn dosbarthiadau

23 Ionawr 2017

Croesawu £36m i leihau niferoedd mewn dosbarthiadau

Mae UCAC yn croesawu datganiad yr Ysgrifennydd Addysg a’r cyhoeddiad y bydd £36m yn cael ei glustnodi tuag at leihau niferoedd mewn dosbarthiadau yn y Cyfnod Sylfaen.
“Tra’n croesawu’r datganiad mae’n bwysig ei roi yn ei gyd-destun, swm o arian dros 5 mlynedd sydd gennym yma, ac mewn gwirionedd dydi’r swm ddim yn enfawr wrth ystyried hynny, wrth reswm mae’n gam bach yn y cyfeiriad iawn,” meddai Ywain Myfyr, Swyddog Polisi efo’r undeb.
 
“Y gobaith yw y bydd yr arian yma’n mynd gam bychan tuag at leihau maint dosbarthiadau a thrwy hynny helpu i leihau’r llwyth gwaith anferthol sydd ar ein aelodau ac i godi cyrhaeddiad, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig,” ychwanegodd.
 
“Roedd dyfodiad y Cyfnod Sylfaen i Gymru yn rhywbeth chwyldroadol ar y pryd, ond ni chafodd ei ariannu’n ddigonol o’r cychwyn.  Mae angen sicrhau nad oes unrhyw un disgybl yng Nghymru mewn dosbarth o maint anghyfreithlon ac mae’n bwysig iawn rhannu’r arian yn ofalus er mwyn sicrhau tegwch."
 
“Byddai’n braf nawr gweld Llywodraeth Cymru yn mynd y cam ychwanegol i wneud dosbarthiadau tan 25 yn statudol i bob oedran ac yn cynllunio i leihau maint dosbarthiadau yn gyffredinol er lles disgyblion a gweithlu addysg Cymru. Credwn y byddai hyn yn cyd-fynd efo egwyddorion datganiad heddiw.”
 
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ywain Myfyr ar 01970 639 950 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.