Croeso i’r cwricwlwm – ond angen gofal wrth weithredu

28 Ionawr 2020

Croeso i’r cwricwlwm – ond angen gofal wrth weithredu

Mae undeb addysg UCAC wedi croesawu lansio canllawiau diwygiedig Cwricwlwm Cymru gan Lywodraeth Cymru heddiw (28 Ionawr), mae wedi rhybuddio bod angen talu sylw i faterion penodol wrth ddechrau ei weithredu.

Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae heddiw’n ddiwrnod hanesyddol ble mae cwricwlwm wedi’i lansio sy’n benodol i Gymru – mae hynny’n gam aruthrol ac yn deyrnged i weledigaeth y Gweinidog Addysg a gwaith diwyd y proffesiwn dysgu yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd.

“Mae’r Gweinidog ei hun wedi dweud na ddylai ysgolion ruthro i gynllunio yn sgil cyhoeddi’r ddogfennaeth heddiw – ond yn hytrach y dylent gymryd amser i ddeall y model newydd a thrafod eu gweledigaeth a’u gwerthoedd. Mae hynny’n gyngor doeth.

“Cyn symud i’r camau nesaf, sef cynllunio a gweithredu, mae UCAC yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau dau beth.

“Yn gyntaf, y caiff athrawon ddigon o amser digyswllt – heb fod yn yr ystafell ddosbarth o flaen y disgyblion – i fedru gwneud y gwaith gwbl hanfodol o gyd-gynllunio a hynny ar draws meysydd cwricwlwm ac ar draws ystod oedrannau. Bydd angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod amser digonol ar gael i athrawon i gwblhau’r dasg allweddol honno.

“Yn ail, pwyswn ar Lywodraeth Cymru i egluro, yng nghyd-destun cwricwlwm llawer fwy hyblyg a phenagored, sut y bydd Cymreictod y cwricwlwm yn cael ei sicrhau – a hynny ymhob un ysgol yng Nghymru, ac ar draws pob elfen o’r cwricwlwm. Mae gennym bryderon y gallai’r cyfle euraidd hwn o gael cwricwlwm penodol Cymreig gael ei wanhau gan anghysondeb mewn perthynas â phwyslais a byd-olwg unigryw Gymreig.”

DIWEDD

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.