Cynllun digolledu UCAC
Cynllun yw hwn sy'n digolledu aelod hyd at uchafswm o £250 mewn blwyddyn galendr am ddifrod bwriadol i gar neu eiddo personol ar safle'r ysgol neu'r coleg yn ystod oriau gwaith arferol. Cysylltwch â'r brif swyddfa am ffurflen gais a rhestr lawn o'r amodau.
Cymhorthfa UCAC
Mae Cymhorthfa UCAC yn estyn cymorth ariannol i aelodau sydd angen hynny oherwydd salwch neu ddamwain, ac felly yn ddigyflog neu'n derbyn cyflog bychan. Mae natur y cymorth yn cael ei benderfynu gan dri swyddog annibynnol. Diogelir cyfrinachedd yr aelod yn ystod y broses hon. Cysylltwch â'r brif swyddfa os am dderbyn cymorth neu ragor o wybodaeth.
Cyngor ariannol
Cred UCAC fod cael mynediad at gyngor ariannol annibynnol drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig i aelodau wrth iddynt gynllunio tuag at eu dyfodol. Yn dilyn proses o gyfweld a gwirio, mae UCAC yn hapus i gymeradwyo'r cwmniau isod:
Fairstone Ltd.
(gwasanaeth i aelodau Cymru gyfan)
Am gyngor ariannol annibynnol ar faterion yn ymwneud â buddsoddiadau, pensiwn ac ysiwiriant.
01970 600007
Sterling Porthmadog Cyf.
(gwasanaeth rhanbarthol i aelodau yng ngogledd a chanolbarth Cymru)
Am gyngor ariannol annibynnol ar faterion yn ymwneud â buddsoddiadau, pensiwn, yswiriant a morgeisi.
01766 513 273
Canllaw Cyf
(gwasanaeth rhanbarthol i aelodau yng ngogledd Cymru)
Am gyngor annibynnol ar sut i gynllunio'n ariannol ar gyfer eich ymddeoliad.
01286 672 011
Mae'r cwmniau uchod yn cael eu hawdurdodi a'u rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.
*Nid yw UCAC yn gyfrifol am unrhyw gyngor a roir gan gwmni ymgynghori ariannol annibynnol.