22 Tachwedd 2013

Ymateb UCAC i sefyllfa'r iaith Gymraeg yn ein hysgolion

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi sefydlu gweithgor er mwyn ymateb i ffigurau’r Cyfrifiad oedd yn dangos bod llai na 50% o siaradwyr Cymraeg yn y sir am y tro cyntaf erioed. 
Un o’r pethau maent wedi bod yn ei wneud yw derbyn tystiolaeth gan wahanol gyrff a mudiadau. Yn ddiweddar bu Elen Davies, Llywydd Cenedlaethol UCAC,  yn cyflwyno papur yn ysgrifenedig, ac ar lafar, gan gyflwyno ymateb ein haelodau i sefyllfa’r iaith yn ein hysgolion.
 
Diolch i bob aelod o UCAC sy’n gweithio yn y sir a’r aelodau hynny sy’n rhieni i blant sy’n mynychu ysgolion yn y sir a fu’n trafod gyda’r Llywydd Cenedlaethol.  
 
Yn gryno, dyma rhai pwyntiau a drafodwyd:
  • Trafodwyd y patrymau sy’n bodoli yn yr ysgolion a’r sefyllfa ieithyddol yn y dosbarth ac ar yr iard o fewn y gwahanol fathau o ysgolion. Soniwyd am y categoreiddio a’r dryswch parthed dealltwriaeth rhai rhieni ac aelodau’r cyhoedd yngl?n â’r categoreiddio. Beth yw’r rhesymau dros ddewis ysgol? Pam nad y cyfrwng iaith yw’r prif ddewis? Pa mor gefnogol mae’r rhiant i bolisi ieithyddol yr ysgol?
  • Cofnodwyd bod annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol yn dod yn gynyddol anoddach a bod y pwysau i gyd yn ymddangos i fod ar ysgwyddau’r  athrawon i ateb y broblem. Mae ein haelodau yn gweithio’n eithriadol o galed i annog a gwobrwyo defnydd o’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd lle mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf neu’n ail iaith i’r disgyblion. 
  • Cydnabuwyd y ffaith fod yna gyrsiau a chyfleon i ddisgyblion a staff sy’n athrawon a chynorthwywyr gael y cyfle i gaffael a defnyddio’r iaith. Er hynny mae’r galw am y cyrsiau’n fwy na beth sydd yn cael eu cynnig. Hefyd mae angen sicrhau bod pawb yn annog y defnydd o’r iaith gyda’r unigolion yma fel nad yw eu hymdrech yn mynd yn ofer.
  •  Nodwyd bod polisi addysg a pholisi iaith yr Awdurdod Lleol yn gyffredinol yn gadarn ac yn cefnogi ac annog defnydd ac hyfforddiant ar gyfer y defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgolion ac yng ngweithle cyffredinol yr Awdurdod. Nodwyd bod yna enghreifftiau lle nad yw beth sydd ar bapur yn cael ei adlewyrchu yn y byd go iawn. 
Cynigwyd argymhellion amrywiol, yn cynnwys:
  • Mae angen codi ymwybyddiaeth yn gyffredinol ac addysgu pobl yngl?n â manteision bod yn berson dwyieithog neu amlieithog.   Ni ddylid cadw’r gr?p targed i rieni yn unig. Mae angen i’r gweithlu addysg, cyflogwyr a phawb yn y gymuned fod yn mwy ymwybodol a chael gwared o hen ddaliadau anghywir o Oes Fictoria.
  • Dylid ymchwilio ac ymateb i’r galw am addysg Gymraeg yn gyson a gweithredu cynlluniau’n fuan. Dylid sicrhau bod dilyniant ieithyddol yn digwydd yn yr ysgolion a gwyrdroi y cwymp presennol rhwng y sectorau cynradd ac uwchradd.
  • Cynigwyd bod angen sicrhau bod cyfle i bobl ifanc gael hyfforddiant a phrentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae eisiau annog cyflogwyr i weld bod dwyieithrwydd yn golygu bod gan berson sgil ychwanegol i gynnig a bod cyfle iddynt gael gweithlu mwy hyblyg fel canlyniad. Gallai’r Cyngor Sir, fel cyflogwyr, arwain y ffordd a bod yn enghraifft wych. Dylai polisïau a phob gohebiaeth fod drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yn awtomatig a nid yn rhywbeth “fydd yn dilyn” a weithiau byth cyrraedd. Mae hyn yn wir hefyd o fewn consortiwm ERW. 
  • Mae angen i’r gymuned sicrhau bod yr un cyfle yn cael ei gynnig i bobl i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn arbennig o wir fel bod y pobl ifanc yn gweld bod y Gymraeg yn iaith naturiol yn y gymuned.
  • Mae gwobrau cenedlaethol yn cael eu cynnig i fusnesau sy’n annog y defnydd o’r Gymraeg. Beth am wobrau sirol amrywiol i gydnabod gwaith unigolion sy’n ddysgwyr ac addysgwyr sy’n llwyddo’n arbennig ar lefel sefydliadau addysgol, cymdeithasol ac ym myd busnes neu’r sector cyhoeddus?
 
 
Elen Davies
Llywydd Cenedlaethol UCAC 2013-14