CYNHADLEDD DARPL

8 Mehefin 2023 

Bu cynrychiolwyr o UCAC mewn cynhadledd arbennig yng Nghaerdydd ar 8 Mehefin, cynhadledd a drefnwyd gan DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol).  Roedd gweld cynifer yn bresennol yn galonogol iawn a chafwyd diwrnod llawn, gyda nifer o siaradwyr blaenllaw o Gymru a thu hwnt yn siarad yn huawdl a grymus am eu profiadau o hiliaeth a sut y maen nhw wedi defnyddio’r profiadau negyddol hynny i weithredu ac ymgyrchu er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.  Roedd clywed am waith yr unigolion hyn yn brofiad arbennig ac yn anogaeth yn ogystal ag yn her. Wrth glywed areithiau a oedd yn anesmwytho ac yn ysgogi’r meddwl, atgoffwyd y cynadleddwyr o’r gwaith y mae angen ei gyflawni, er mwyn gallu gwireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o gael Cymru yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030. 

 

CYNHADLEDD FLYNYDDOL UCAC

5-6 Mai 2023 

Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol UCAC 2023 yng Ngwesty’r Coldra Court, ger Casnewydd ar 5-6 Mai, 2023.  Cafwyd cyfle i drafod materion byd addysg mewn cyfarfodydd ffurfiol, yn ogystal â chyfle i drafod a chymdeithasu yn anffurfiol. 

Roedd y cynigion a ddaeth gerbron yn adlewyrchiad teg o’r hyn sydd ar frig agenda byd addysg ar hyn o bryd , yn eu plith materion yn ymwneud ag amodau gwaith, y Cwricwlwm i Gymru, Bil Addysg y Gymraeg.   Mae’n siŵr y bydd y materion hyn yn bynciau trafod pellach o fewn yr undeb ac yn ehangach yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. 

Datblygiadau digidol a’r Cwricwlwm i Gymru oedd themâu ein siaradwyr eleni a braf oedd gwrando ar gyfraniadau ysbrydoledig Meredudd Jones ac Alan Thomas-Williams, y naill yn siarad am ei waith ym maes Technoleg Gwybodaeth a'r llall yn siarad am ei waith ar y Cwricwlwm i Gymru.    Cafwyd cyfle nid yn unig i glywed am y gwaith arbennig y mae’r ddau wedi ei wneud ond neilltuwyd amser hefyd i aelodau holi cwestiynau. 

 

AMDDIFFYN YR HAWL I STREICIO – RALI TUC CYMRU

3 Chwefror 2023

 

Ddydd Mercher, 1 Chwefror, roedd Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, ymhlith y siaradwyr yn rali TUC Cymru, Amddiffyn yr Hawl i Streicio.  Cynhaliwyd y rali yng Nghaerdydd mewn ymateb i’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth San Steffan i gyflwyno deddfwriaeth gwrth-undebol a fyddai’n cyfyngu ar hawliau unigolion i streicio.  Mae’r gyfraith arfaethedig yn golygu y gellid gorfodi gweithwyr i weithio, er eu bod wedi pleidleisio’n ddemocrataidd i streicio.  Dywedodd Ioan, “Mae’n bwysig ein bod yn amddiffyn rhyddid gweithwyr a’u hawl i leisio eu barn a gweithredu er mwyn amddiffyn eu cyflog a’u hamodau gwaith. Mae UCAC yn falch o sefyll dros hawliau ei haelodau.”

Roedd cannoedd yn bresennol yn y rali yng Nghaerdydd ac mae dros 200,000 o bobl eisoes wedi llofnodi deiseb yn erbyn y ddeddfwriaeth gwrth streicio.

Canlyniad Balot Diwydiannol UCAC

17 Ionawr 2023

Pleidleisiodd mwyafrif mawr o’r rhai a bleidleisiodd o blaid mynd ar streic, fodd bynnag, ni lwyddwyd i gyrraedd y trothwy angenrheidiol o 50% o bleidleisiau wedi eu dychwelyd i weithredu.

Pleidleisiau a fwriwyd fel canran o’r unigolion a oedd â’r hawl i bleidleisio   45.19%

Cwestiwn: Ydych chi’n barod i gymryd rhan mewn streic?

Nifer y papurau a ddifethwyd, neu yn annilys    0

Canlyniad y Bleidlais

Ydw    88.62%

Nac Ydw    11.38%

Byddwn felly yn ymgynnull cyfarfod brys o’r Cyngor Cenedlaethol wythnos nesaf i drafod y ffordd ymlaen. Yn y cyfamser bydd UCAC yn parhau i drafod gyda’r Llywodraeth a’r Awdurdodau ar ran aelodau o ran llwyth gwaith a chyflog.

Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022

21 Tachwedd 2022 

Mae Dogfen Cyflog ac Amodau Gwaith Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 bellach ar wefan llywodraeth Cymru. 

Isod mae dolenni i ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, yn derbyn holl argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar gyfer 2022/23 ac i’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Gwaith Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 ddiwygiedig. 

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-dyfarniad-cyflog-athrawon-2022 

https://llyw.cymru/dogfen-cyflog-ac-amodau-athrawon-ysgol-cymru-2022 

Os ydych yn gweithio'n rhan amser ac yn derbyn CAD, cofiwch ei bod yn bwysig gwirio gyda’ch pennaeth a ydych yn gymwys bellach i dderbyn CAD yn llawn.