Diweddariad

15 Mai 2020

Diweddariad

Hoffwn ddwyn eich sylw at y ddogfen ‘Fframwaith penderfyniadau ar gyfer y cam nesaf i addysg a gofal plant’ gafodd ei gyhoeddi’n gynharach heddiw ac sydd ar gael yma:

https://llyw.cymru/fframwaith-penderfyniadau-ar-gyfer-y-cam-nesaf-i-addysg-gofal-plant

Ynddi, mae’r gweinidog Addysg yn ail-bwysleisio’r ymrwymiad i ‘diogelwch a lles meddyliol, emosiynol a chorfforol dysgwyr a staff’.

Mewn neges Trydar bu iddi ddatgan y canlynol am ddyddiad ail-agor ysgolion:

‘Byddai dim byd yn fy ngwneud i’n hapusach na gweld ein hysgolion yn dychwelyd i'r arfer ond ni allaf, ac ni wnaf, osod dyddiad mympwyol nes bydd gennym fwy o dystiolaeth, mwy o hyder i gael mwy o reolaeth dros y firws’.

Bydd UCAC yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau na fydd unrhyw arweinydd, athro na disgybl yn dychwelyd i addysg ffurfiol hyd ei fod yn ddiogel i wneud hynny.

Gan obeithio eich bod yn ddiogel ac iach cofiwch bod UCAC yma i chi ar gyfer pob ymholiad.