Ail-agor ysgolion

20 Mai 2020

Ail-agor ysgolion

Mae llawer o sôn wedi bod yn y cyfryngau am ail-agor ysgolion a charwn bwysleisio, unwaith yn rhagor, nad yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw ddyddiad(au) penodol ar gyfer dychwelyd i’n hysgolion.

Bydd angen amodau penodol ar gyfer unrhyw ddychwelyd ac rydym wedi cefnogi’r pum egwyddor sylfaenol gafodd eu cyhoeddi gan y Gweinidog Addysg er mwyn sicrhau bod y dychwelyd yn ddiogel a strategol:

1.       Diogelwch, a lles meddyliol, emosiynol, a chorfforol myfyrwyr a staff;

2.       Cyfraniad parhaus i’r ymdrech a'r strategaeth genedlaethol i frwydro yn erbyn lledaeniad Covid-19;

3.       Hyder rhieni, staff a myfyrwyr – yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth – fel y gallant gynllunio ymlaen llaw;

4.       Y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd difreintiedig;

5.       Cysondeb â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau, i sefydlu arweiniad i gefnogi mesurau fel pellhau,     rheoli presenoldeb a chamau amddiffyn ehangach.

Bydd UCAC, ynghyd ag undebau eraill, yn rhan allweddol o’r drafodaeth gyda Llywodraeth Cymru fydd yn sicrhau fod y trefniadau’n glynu at yr egwyddorion uchod. 

Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau all fwydo i’r drafodaeth honno a sicrhau bod unrhyw ddychwelyd, pan fydd yn digwydd yn dychwelyd iach a diogel.

Gan obeithio eich bod yn ddiogel ac iach cofiwch bod UCAC yma i chi ar gyfer pob ymholiad.