Diweddariad i aelodau: Covid-19

20 Mawrth 2020 11:30

Diweddariad i aelodau: Covid-19 

Rydym mewn cysylltiad dyddiol gyda Llywodraeth Cymru i drafod cwestiynau a phryderon, ac yn cydweithio i geisio dod o hyd i ddatrysiadau sy’n dderbyniol dan yr amgylchiadau. 

Dyma’r hyn rydyn ni wedi cael gwybod hyd yma:

  • Bydd y Gweinidog yn:

                       - gwneud datganiad heddiw fydd yn rhoi mwy o eglurder ynghylch cymwysterau

                       - gwneud sesiwn Cwestiwn ac Ateb i blant a phobl ifanc heddiw am 5.30 – drwy gyfrif
                         Twitter @wgmin_education https://twitter.com/wgmin_education    

  • Bu cyfarfod rhwng Uwch Swyddogion Adran Addysg Llywodraeth Cymru brynhawn ddoe â Phrif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol gyda’r bwriad o anelu am gysondeb a negeseuon clir erbyn heddiw
  • Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y diffiniad o ‘blant bregus’ fydd â mynediad at ofal; y bwriad yw cyhoeddi hwn erbyn dydd Llun 
  • Mae’n debygol y bydd disgwyl i ysgolion fod ar agor yn ystod y gwyliau Pasg - ond nid oes modd cyfarwyddo athrawon i ddod mewn yn ystod y gwyliau Pasg (hynny yw: 4 -19 Ebrill); mae staff eraill y gellid galw arnynt i weithredu yn ystod y cyfnod hwn; mewn egwyddor mae hyn yn wir am Benaethiaid hefyd, a byddwn yn pwyso am gadarnhad o hynny

Dyma rai o’r materion rydym yn eu codi ar hyn o bryd: 

  • Yr angen i sicrhau eglurder a chysondeb ynghylch: 

                     -  dylai bod amser cynllunio, a chanllawiau pendant, cyn agor y drysau i blant yr wythnos nesaf

                     -  ni ddylai ysgolion fod yn ceisio gweithredu cynlluniau ail-strwythuro/diswyddo ar hyn o bryd; ac
                        ni ddylai fod  sgil-effeithiau ar gyllidebau ysgol o ganlyniad i ohirio’r prosesau

  • Sut ydyn ni’n blaenoriaethu o ran bod yn bresennol mewn ysgolion gyda’u pwrpas newydd, a cheisio darparu addysg yn y cartref; pwy ddylai fod yn gwneud beth?
  • A ddylai athrawon fynd i’w hysgolion arferol – neu’r ysgol agosaf er mwyn lleihau teithio?
  • Os yw’r ddarpariaeth ‘ysgol’ yn cael ei chanoli mewn nifer penodol o ysgolion, beth yw’r trefniadau o ran cludiant? Ac onid oes peryglon lledaenu’r feirws wrth dynnu pobl ynghyd o ardal ehangach? 
  • Mae wir angen canllaw ynghylch sefyllfa athrawon cyflenwi, yn enwedig y rheiny heb gytundebau
  • Os ydyn ni’n symud i ‘lock-down’ a fydd pob ysgol yn cau?

Yn ogystal, rydym yn gofyn:

  • i Gymwysterau Cymru: a oes gofyniad i gwblhau gwaith cwrs ai peidio?
  • i Gyngor y Gweithlu Addysg: a oes modd rhewi’r ffi cofrestru i unrhyw weithwyr fydd heb incwm?

Cofiwch fod UCAC yma i chi. Mae croeso i chi gysylltu ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 01970 639950.