Diweddariad i Athrawon dan Hyfforddiant: Covid-19

20 Mawrth 2020 16:30 

Diweddariad i Athrawon dan Hyfforddiant: Covid-19

Mewn amser o ansicrwydd enbyd ym myd addysg cofiwch fod UCAC yma i chi fel athro dan hyfforddiant.

Cofiwch ddilyn y cyngor cyffredinol gan Lywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://llyw.cymru/coronafeirws a https://icc.gig.cymru/  

Mae Llywodraeth Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg a darparwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yn gweithio ar y trefniadau ar gyfer athrawon dan hyfforddiant. Mae trafodaethau’n parhau, ond dyma ychydig o wybodaeth yn y cyfamser:

Myfyrwyr TAR

  • Mae lleoliadau myfyrwyr mewn ysgolion wedi dod i ben yr wythnos hon
  • Mae cydnabyddiaeth na fydd modd i fyfyrwyr gwblhau’r nifer o wythnosau gofynnol; caiff hyn ei gymryd i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC/QTS)

Myfyrwyr is-raddedig

  • Mae lleoliadau myfyrwyr mewn ysgolion wedi dod i ben yr wythnos hon
  • Ar gyfer lefelau 4 a 5 (fel arfer blynyddoedd 1 a 2), mae cydnabyddiaeth na fydd modd i fyfyrwyr gwblhau’r asesiadau yn yr ysgol gofynnol; mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r darparwyr i benderfynu sut i gymryd hyn i ystyriaeth
  • Ar gyfer lefel 6 (fel arfer blwyddyn 3), bydd darparwyr yn gallu asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC/QTS) ar sail eu gwaith academaidd a phrofiad dysgu (mewn ysgol), hyd yn oed ble nad yw’r rhain yn cyrraedd y 24 wythnos gofynnol

Rhaglen Athrawon Graddedig (GTP)

  • Fel gyda cyrsiau TAR a chyrsiau is-raddedig, bydd gan darparwyr y disgresiwn i asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC/QTS) ar y dyddiad y mae eu hysgolion yn cau

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach neu unrhyw bryderon, mae croeso i chi gysylltu ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 01970 639950.

Wrth i’r sefyllfa ddatblygu’n ddyddiol byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad gyda chi.