Gwirio eich manylion ar gofrestr Cyngor y Gweithlu Addysg

4 Awst 2015

Gwirio eich manylion ar gofrestr Cyngor y Gweithlu Addysg

Bydd nifer o'n haelodau yn ymddeol neu'n symud i swyddi newydd ym mis Medi ac mae UCAC yn dymuno'n dda i chi ar ddechrau pennod newydd yn eich bywyd.
Rydym am eich atgoffa i sirhau bod y wybodaeth sydd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) amdanoch yn gyfoes. Yn ôl gwefan CGA, 'mae gofyn i chi hysbysu'r Cyngor, o fewn mis, o newid i unrhyw fanylion sydd wedi'u cofnodi amdanoch ar y Gofrestr'.
 
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw'r corff rheoleiddio annibynnol yng Nghymru ar gyfer athrawon mewn ysgolion a gynhelir, athrawon Addysg Bellach (AB) a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau AB.  Dyma'r corff sydd wedi olynu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru  ac mae sicrhau bod eich gwybodaeth gyfredol yn ddisgwyliad statudol o ran cydymffurfio â Rheolau Cofrestru CGA. 
 
Mae manylion cyswllt CGA yma: