Hysbysebu swydd: Cynorthwy-ydd Swyddfa

5 Awst 2015

Hysbysebu swydd: Cynorthwy-ydd Swyddfa

Ydych chi awydd ymuno â gweithlu UCAC?

Dyma swydd ran-amser, 21 awr yr wythnos, wedi ei lleoli ym mhrif swyddfa UCAC yn Aberystwyth. 

Cyflog: £14,218 - £15,588 (pro-rata

Dyddiad Cau: 12pm, dydd Llun, 7 Medi 2015
 
Ceir ffurflen gais a manylion pellach am ddyletswyddau'r swydd o Swyddfa UCAC. Cysyllter ag Elaine Edwards os dymunwch sgwrs anffurfiol ar 01970 639 950 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
 
Bydd angen dychwelyd y ffurflen gais i swyddfa UCAC erbyn hanner dydd, dydd Llun, 7 Medi, at Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol, Prif Swyddfa UCAC, Ffordd Penglais, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2EU.