Trafodaethau gyda'r Gweinidog

23 Medi 2016

Trafodaethau gyda’r Gweinidog

Cafodd UCAC gyfle yr wythnos hon (dydd Mercher 21 Medi) i gwrdd â Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru – sef Alun Davies AC.
 
Bu Elaine Edwards (Ysgrifennydd Cyffredinol), Gwenno Wyn (Llywydd Cenedlaethol) a Rebecca Williams (Swyddog Polisi) i Fae Caerdydd i gwrdd â’r Gweinidog yn ei swyddfa yn Nh? Hywel.
 
Mae ganddo weledigaeth uchelgeisiol, sef i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 – ac mae e’n ymwybodol iawn o rôl ganolog y system addysg wrth wireddu’r uchelgais.
 
Fe hefyd fydd yn llywio’r newidiadau i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol dros y misoedd nesaf.
 
 
Cawsom drafodaeth fuddiol ynghylch ystod eang o faterion - o straen a llwyth gwaith athrawon yn sgil tanariannu a thanstaffio; i’r broses o ddiwygio’r Cwricwlwm, gan gynnwys dileu Cymraeg Ail Iaith; i ddatganoli tâl ac amodau gwaith athrawon - a gwella sefyllfa athrawon cyflenwi;  i Anghenion Dysgu Ychwanegol; ac ariannu Addysg Bellach ac Addysg Uwch a rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
 
Rydym wedi cytuno i aros mewn cysylltiad ar nifer o faterion penodol – felly cychwyn yn unig oedd hwn ar sgwrs dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.