Addysgu Aelodau Cynulliad am ADY

23 Medi 2016

Addysgu Aelodau Cynulliad am ADY

Mae aelodau UCAC wedi hen arfer ag addysgu plant a phobl ifanc, ac â thrafod gyda rhieni.
 
Ond daeth cyfle mwy anarferol i dair o aelodau’r undeb ddydd Mawrth, 20 Medi, i rannu eu harbenigedd gydag aelodau’n Cynulliad Cenedlaethol.
 
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n gwneud newidiadau pellgyrhaeddol i’r drefn Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae llawer i’w groesawu yn y cynigion – ond mae pryderon yn ogystal.
 
Pwrpas y digwyddiad yn y Senedd, oedd rhoi cyfle i Aelodau Cynulliad sgwrsio gyda chydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol i ddeall y sefyllfa o’u safbwynt nhw, i glywed am yr hyn sy’n gweithio’n effeithiol, am yr heriau ac am y pryderon ynghylch y newidiadau posib.
 
 
Trefnwyd y digwyddiad gan bedwar undeb ar y cyd, sef ATL, NAHT, UCAC a UCU – a braf oedd gallu cydweithio ar fater o bwys i bob un ohonom.
 
Diolch yn fawr iawn i Becca Avci, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Ruth Davies, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr a Nerys Williams, Ysgol Gymraeg Sant Baruc am roi o’u hamser i rannu barn ac arbenigedd gyda’r sawl fydd yn gwneud penderfyniadau mawr am y drefn Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y dyfodol.
 
 
Rhagor o wybodaeth:
 
 
Dogfennau ymgynghorol Llywodraeth Cymru – a dadansoddiad o’r ymatebion: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/bil-drafft-anghenion-dysgu-ychwanegol-ar-tribiwnlys-addysg-cymru