UCAC yn croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

15 Tachwedd 2016

UCAC yn croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch ysgolion gwledig ac ysgolion bach

Mae UCAC yn croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am y cymorth ychwanegol o £2.5m fydd ar gael i ysgolion gwledig ac ysgolion bach o Ebrill 2017. 
 
“Mae heriau gan lawer o’n hysgolion oherwydd eu maint a’u lleoliadau. Bu llawer i ysgol fach neu wledig gau eu drysau dros y blynyddoedd diwethaf gan effeithio ar blant, cymunedau a llawer o’n haelodau. Bydd newid y rhagdybiaeth i fod dros gadw’r ysgolion ar agor yn newid y pwyslais i fod ar ddarganfod datrysiadau i’r heriau sydd yn eu hwynebu. Bydd yr arian yn gam tuag at hwyluso cyd-weithio a chefnogi’r ysgolion i ddatblygu ymhellach y defnydd effeithiol o dechnoleg. Mae’n rhaid i’r pwyslais fod ar ddarparu addysg o safon uchel ond ni ddylid rhagdybio nad oes modd gwneud hyn mewn ysgol fach,”
meddai Ywain Myfyr, Swyddog Polisi gydag UCAC.
 
“Edrychwn ymlaen i weld Awdurdodau Lleol yn cyd-weithio gydag ysgolion i ystyried posibiliadau amrywiol er mwyn sicrhau parhad ysgolion bach ac ysgolion mewn cymunedau gwledig cyn belled a’u bod yn addysgiadol hyfyw.”
 
“ Gall y gefnogaeth ychwanegol gynnig gobaith i deuluoedd sydd yn dymuno parhau gydag addysg leol i’w plant (sydd yn aml yn addysg cyfrwng Cymraeg naturiol) ac i’r gweithlu ymroddedig sydd yn cynnig cymaint  i’w disgyblion a’u cymunedau. Gellir cyflawni llawer trwy gyd-weithio effeithiol rhwng ysgolion a rhannu adnoddau ac mae’r pwyslais ar ffurfioli hyn yn debygol o ddod â manteision i’r disgyblion, y cymunedau a’r gweithlu.”