Sicrhau amodau teg i athrawon ym Mhowys

27 Hydref 2016

Sicrhau amodau gwaith teg i athrawon ym Mhowys

Yn ystod mis Hydref mae Dilwyn Roberts-Young, Swyddog Maes y Canolbarth a'r De-orllewin wedi bod yn mynychu cyfarfodydd yn Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys ble mae ymgynghoriad ar bolisïau'r Sir yn ymwneud ag amodau gwaith athrawon.
 
Yn y cyfarfodydd mae trafodaethau adeiladol wedi digwydd gyda swyddogion adnoddau dynol, cynghorwyr ac ymgynghorwyr cyfreithiol yr Awdurdod ar bolisïau amrywiol sy'n cynnwys:
absenoldeb, disgyblu, chwythu'r chwiban, defnydd o e-dechnoleg, cwynion, gweithio'n hyblyg, camddefnydd sylweddau a chefnogi rhieni sy'n gweithio.
 
Mae'n allweddol ein bod fel undebau'n mynychu'r cyfarfodydd hyn  gan ein bod am sicrhau tegwch i'n haelodau a bod y cyflogwr yn ystyried oblygiadau’r polisïau y maent yn eu hawduro. Mae’r trafodaethau wedi arwain at newidiadau fydd yn amddiffyn ein haelodau ac yn sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal a gyda pharch.
 
Bydd y cyfarfod nesaf ar ddiwrnod olaf y mis gyda'r bwriad o ddod i gytundeb ar gynnwys y polisïau a sefydlu patrwm o gyfarfodydd cyson gyda'r adran adnoddau dynol i drafod materion cyflogaeth. Credwn fod y math hwn o berthynas gyda'r cyflogwr yn hanfodol er mwyn sicrhau lles ein haelodau.