UCAC yn cwrdd â Kirsty Williams

21 Hydref 2016

UCAC yn cwrdd â Kirsty Williams

Dydd Mawrth, 18 Hydref cafwyd cyfarfod rhwng swyddogion UCAC ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, sef Kirsty Williams AC yn ei swyddfa ym Mae Caerdydd.
 
Bu’r cyfarfod yn un dwys ac adeiladol wrth i ni drafod mewn cryn fanylder rhai o’r prif faterion sydd o bryder i’r undeb ar hyn o bryd.
 
 
Prinder arian a’r effaith ar lwyth gwaith
 
Cafwyd trafodaeth estynedig am y problemau sy’n wynebu ysgolion yn sgil diffyg arian, gan gynnwys maint dosbarthiadau’n cynyddu, athrawon yn gorfod dysgu ystod ehangach o bynciau, a’r llwyth gwaith difrifol sy’n deillio o hynny. 
 
Rhoddwyd enghreifftiau sydd wedi codi’n uniongyrchol gan aelodau UCAC, megis 54 plentyn mewn dosbarth Cyfnod Sylfaen, gydag 1 athro a 3 cynorthwyydd. Ac aelod sy’n dysgu 7 pwnc gwahanol.
 
Gofynnodd UCAC yn benodol i’r Ysgrifennydd Cabinet ymrwymo i:
  • wario cyfran o’r £100 miliwn ychwanegol sydd wedi’i addo ar gynyddu lefelau staffio a hyfforddiant gyda’r bwriad o leihau llwyth gwaith, lleihau’r effeithiau negyddol ar iechyd athrawon ac arweinwyr,  ac felly codi safonau addysgol, a gwella’r profiad i ddysgwyr
  • gymryd safbwynt clir a chadarn ar sut mae cyflogwyr yn ymdrin ag absenoldeb salwch o fewn y gweithlu addysg, gyda phwyslais ar adnabod problemau’n gynnar, cynnig cefnogaeth, dyletswydd gofal - a sicrhau nad oes cysylltiad gyda pholisïau disgyblu na medrusrwydd
  • fod yn fwy realistig ynghylch ariannu diwygiadau i’r system addysg, o ran y costau cychwynnol a’r costau hirdymor, er enghraifft mewn perthynas â diwygio’r cwricwlwm, a’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol
Diwygio’r cwricwlwm
 
Symudodd y drafodaeth ymlaen wedyn at y broses o ddiwygio’r cwricwlwm yn sgil yr Adroddiad Donaldson.
Tra’r pwysleisio brwdfrydedd am y weledigaeth a’r uchelgais, mynegwyd cryn bryder am y datblygiadau hyd yma, a’r cyfeiriad a’r amserlen at y dyfodol.
 
Gan ddefnyddio ystadegau trawiadol iawn o arolwg diweddar UCAC ymhlith aelodau llawr dosbarth, ac arweinwyr ysgol, tynnwyd sylw at y diffyg cyfathrebu effeithiol hyd yma, a’r diffyg cefnogaeth i ysgolion arloesi. Codwyd cwestiynau ynghylch effaith y diwygio ar drefniadau asesu ac ar gymwysterau – a sut y bwriedir sicrhau hyfforddiant digonol i’r gweithlu cyfan.
 
Datganoli’r grym dros dâl ac amodau gwaith athrawon
 
Clowyd y cyfarfod gyda thrafodaeth ar ddatganoli’r grym dros dâl ac amodau gwaith athrawon o San Steffan i’r Cynulliad Cenedlaethol.
 
Cytunodd Kirsty Williams â safbwynt UCAC y byddai’n fanteisiol i’r grym fod yn nwylo Llywodraeth Cymru yn hytrach na Llywodraeth San Steffan. Cytunwyd, yn ogystal, ei fod yn debygol iawn y bydd hyn yn digwydd, er nad yw’r amserlen yn glir.
 
Bydd UCAC yn chwarae rhan lawn mewn unrhyw drafodaethau ynghylch y model newydd yng Nghymru pan ddaw, ac yn pwyso am i’r trafodaethau hynny ddechrau’n ddi-oed.
 
Cafwyd yr argraff o Ysgrifennydd Cabinet sy’n gwbl diffuant yn ei hawydd i wella’r system addysg, ac yn ymroddedig i’r dasg mewn ffordd ymarferol iawn. Roedd hi’n hollol agored i’r pwyntiau a godwyd gennym, ac yn awyddus i gael rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau gennym.
 
Bydd swyddogion UCAC yn cadw mewn cysylltiad gyda’r Ysgrifennydd Cabinet a’i swyddfa i sicrhau bod y materion hyn – ac eraill - yn cael sylw dros y misoedd nesaf er budd aelodau UCAC a system addysg Cymru.