Cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg Justine Greening

29 Gorffennaf 2016

Cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg Justine Greening

Bu Dilwyn Roberts-Young , Is-ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb mewn cyfarfod yn Llundain gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg Justine Greening ar ddydd Mercher, Gorffennaf yr 20fed. 
 
Ar y cyfan, mae'r cyfarfodydd cyson rhwng yr undebau'n ganolog a'r Adran Addysg yn ystyried materion sydd eisoes wedi eu datganoli yma yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd hwn yn gyfle i'r Undeb atgoffa'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg bod cyfrifoldeb ac atebolrwydd yr Adran Addysg yn Llundain dros gyflogau ac amodau gwaith yng Nghymru'n parhau.
 
Bydd UCAC yn galw am gyfarfod pellach gyda hi yn gynnar ym mis Medi i ystyried materion cyflog ac amodau gwaith ac i sicrhau bod cyfathrebu clir rhwng San Steffan a Llywodraeth Cymru.