Angen eglurder cyn gynted â phosib
20 Ionawr 2021
Mae UCAC yn croesawu datganiad Llywodraeth Cymru heddiw y bydd dysgwyr, yr haf yma, yn derbyn graddau a bennir gan eu hysgol neu goleg ar sail ystod o waith maent wedi’i gwblhau yn ystod eu cyrsiau TGAU, Uwch Gyfrannol neu Safon Uwch. Fodd bynnag, mae’r Undeb yn pryderu bod llawer o fanylion eto i’w pennu.
Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, “Graddau wedi’u pennu gan ysgolion a cholegau oedd yr unig benderfyniad oedd yn gwneud synnwyr bellach, felly rydyn ni’n croesawu’r datganiad. Bydd dileu’r gofyniad am unrhyw asesiadau allanol gorfodol yn rhyddhad o’r mwyaf i ddisgyblion ac i athrawon.