Croesawu codiad cyflog i athrawon Cymru
08 Medi 2021
Mewn ymateb i gadarnhad gan y Gweinidog Addysg heddiw y bydd codiad cyflog o 1.75% i athrawon Cymru, dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Croesawn y ffaith fod Llywodraeth Cymru, ar sail argymhelliad gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, wedi penderfynu rhoi codiad cyflog i athrawon. Mae’r proffesiwn cyfan wedi gweithio dan amodau eithriadol o heriol dros y cyfnod diwethaf ac yn llawn haeddu’r gydnabyddiaeth hon.
“Gwyddom nad oedd hwn yn benderfyniad rhwydd yng ngoleuni penderfyniad Llywodraeth San Steffan i rewi cyflogau athrawon yn Lloegr, ac yn deillio o hynny, y diffyg cyllid ychwanegol cyfatebol i dalu amdano. Gwerthfawrogwn felly'r cyfraniad ychwanegol mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi heddiw sy’n mynd cam o leiaf tuag at ariannu’r codiad cyflog i athrawon ysgol ac i ddarlithwyr addysg bellach. Ni fyddem am weld lleihad i gyllidebau ysgolion o ganlyniad i’r dyfarniad cyflog.