UCAC yn cyfarfod Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, i drafod llwyth gwaith

24 Hydref 2014

UCAC yn cyfarfod Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, i drafod llwyth gwaith

Ar 6 Hydref 2014 cyfarfu Ioan Rhys Jones (Llywydd) a Dilwyn Roberts-Young (Is-ysgrifennydd Cyffredinol) gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Huw Lewis i drafod pryderon UCAC am lwyth gwaith.
Cafwyd ymateb rhyfeddol gan ein haelodau i'r holiadur llwyth gwaith diweddar ac roedd y cyfarfod yn gyfle i rannu peth o'r wybodaeth a gasglwyd ac i ystyried y modd i wella sefyllfa ble mae:
  • 91% yn gweld gormod o lwyth gwaith;
  • 81% yn gweithio dros 11 awr yr wythnos tu allan i oriau ysgol;
  • 68% ddim yn gallu cael cydbwysedd bywyd a gwaith;
Mae UCAC, ers misoedd bellach, wedi bod yn mynychu cyfarfodydd yn San Steffan sy'n ystyried llwyth gwaith ac atebolrwydd a rhannwyd peth o'r drafodaeth honno gyda'r Gweinidog. Y gwir amdani yw bod llwyth gwaith yn affwysol erbyn hyn ac yn effeithio' andwyol ar les a iechyd athrawon, ar recriwtio athrawon ac ar ddenu penaethiaid.
 
Roedd y cyfarfod hwn yn gam cyntaf yn y gweithgareddau'r tymor hwn i ddweud bod y sefyllfa o ran llwyth gwaith erbyn hyn yn anghynaliadwy. Bydd cyfle gwych aelodau UCAC i anfon neges glir i'r llwyodraeth yn Nghaerdydd a san Steffan bod rhaid i bethau newid wrth i'n swyddogion fynd ar 'Daith Llwyth Gwaith' i bob rhan o Gymru. 
 
Dyma gyfle i barhau'r drafodaeth ac i arfogi'r Undeb wrth i ni drafod y mater ar lefel ysgol, awdurdod lleol, consortiwm a llywdraethol. Mae'n allweddol bod cynifer a phosib yn mynychu'r cyfarfodydd cyn i ni drefnu cyfarfod pellach gyda'r Gweinidog.