UCAC yn galw am weithredu ar frys i wella telerau athrawon cyflenwi

10 Chwefror 2016

UCAC yn galw am weithredu ar frys i wella telerau athrawon cyflenwi

Mae undeb athrawon UCAC wedi galw am weithredu ar frys yn sgil cyhoeddiad Huw Lewis, Y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, heddiw y bydd yn sefydlu tasglu i edrych ar opsiynau ar gyfer darparu athrawon cyflenwi i ysgolion.
Daeth cyhoeddiad y Gweinidog ar ddiwedd trafodaeth yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad Cenedlaethol ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ‘Waith Athrawon Cyflenwi yng Nghymru.’ 
 
Yn ogystal â’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi adroddiadau sy’n feirniadol o’r drefn bresennol sy’n or-ddibynnol ar asiantaethau preifat. Mae pryderon yngl?n â sgil effeithiau’r system bresennol ar safonau addysgol.
 
Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Ffug-arbediad yw’r un a wneir drwy asiantaethau. Maent yn tanseilio tâl ac amodau gwaith statudol athrawon ac yn creu gr?p o athrawon ‘ail-ddosbarth’. 
 
“Heblaw am dâl sylweddol is, nid yw athrawon cyflenwi sy’n gweithio trwy asiantaeth ar y cyfan yn derbyn tâl gwyliau na salwch, cyfraniadau at eu pensiwn, a phrin iawn yw’r cyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol.
 
“Mae UCAC yn edrych ymlaen at gyfrannu at y waith y tasglu a gyhoeddwyd gan y Gweinidog heddiw. Byddwn yn dadlau dros drefn sy’n sicrhau bod athrawon cyflenwi’n cael eu trin yn gydradd ag athrawon eraill, a’u bod yn cael mynediad at dâl ac amodau gwaith statudol, a’r Cynllun Pensiwn Athrawon. 
 
“Mae systemau addysg o safon uchel yn llwyr ddibynnol ar athrawon o safon uchel; buddsoddi yn y gweithlu drwy gynnig amodau teg yw’r buddsoddiad gorau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac mewn cynnal a chodi safonau.
“Rhaid gweithredu ar fyrder – mae’n hen bryd i ni wneud newidiadau i’r drefn hon sy’n methu ein plant, ein athrawon a’n system addysg.”
 
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rebecca Williams ar 01970 639 950 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..