UCAC yn galw am ymddiheuriad i athrawon Cymru

30 Medi 2015

UCAC yn galw am ymddiheuriad i athrawon Cymru

Mewn ymateb i erthygl olygyddol a ymddangosodd mewn papurau enwadol ar 17 Medi, mae UCAC wedi galw am ymddiheuriad i athrawon Cymru.

Dyma eiriad y llythyr:

Annwyl Ysgrifennydd Y Pedair Tudalen Gydenwadol,

Hoffwn ymateb ar ran y miloedd o athrawon sy’n aelodau o undeb UCAC i’r ‘Gair gan y Golygydd’ yn rhifyn 17 Medi o ‘Y Tyst’ a ‘Seren Cymru’.

Gadwn naill ochr y datganiadau a wneir am ysgol ac unigolion penodol - mae eraill eisoes wedi ymdrin â nhw.

Fodd bynnag, teimlwn yn gryf bod y darn golygyddol wedi pardduo enw da athrawon sy’n siaradwyr Cymraeg, a’r sector cyfrwng Cymraeg yn ei gyfanrwydd. Mae'r sylwadau ysgubol a gyflwynir yn yr erthygl  yn hollol annerbyniol. Fel corff sy’n cynrychioli siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu addysg, ni allwn beidio ag ymateb i’r fath ymosodiad.

Dyma daclo rhai yn unig o’r honiadau a’r ensyniadau:

  1. Bod “gormod o ofn am niweidio delwedd ac enw da ysgol Gymraeg ... gerbron rhieni di-Gymraeg”. “Ydy cydweithwyr yn troi llygad dall i gamymddwyn dybryd yn y gweithle am fod y sawl sy’n camymddwyn yn siarad Cymraeg?”

    Nid oes unrhyw dystiolaeth fod materion disgyblaethol yn cael eu diystyru na’u hanwybyddu mewn ysgolion Cymraeg – am ba reswm bynnag. Mae’r gweithdrefnau yr un fath mewn ysgolion ledled Cymru, a’r un lefelau o atebolrwydd.
     
  2. “Welais i ddim neb yn cynrychioli ysgolion cyfrwng Saesneg am unrhyw achos yn cwyno fod yr achos wedi cael cyhoeddusrwydd”

    Mae undebau athrawon eraill, sy’n cynrychioli athrawon di-Gymraeg, mewn ysgolion Saesneg eu hiaith, yn gwneud cwynion cyson i Gyngor y Gweithlu Addysg ynghylch lefel y cyhoeddusrwydd y derbynia’r achosion sy’n dod ger ei fron.
     
  3. “Ydy ymddygiad llac yn fwy tebygol ymhlith athrawon ysgolion Cymraeg?” “Ydy athrawon yn tueddu i fagu balchder am eu bod yn annog ei gilydd i ddychmygu eu bod yn anhepgor i addysg Gymraeg am fod athrawon cyfrwng Cymraeg yn fwy prin?”

    Yn ôl ffigyrau diweddaraf Cyngor y Gweithlu Addysg, mae dros 37,000 o athrawon wedi’u cofrestru, a 33.1% ohonynt yn datgan eu bod yn siaradwyr Cymraeg. Felly os yw “21% o’r achosion ddaeth gerbron y Cyngor yn ymwneud â siaradwyr Cymraeg” nid oes gor-gynrychiolaeth, fel yr honna awdur y golygyddol, ond i’r gwrthwyneb, mae’r ganran yn sylweddol llai. Os bu 30 o achosion yn ymwneud â siaradwyr Cymraeg, mae hynny’n ffigwr bychan dros gyfnod o ddeuddeg mlynedd.
     
  4. “...ymddengys y gwaharddwyd llai o siaradwyr Cymraeg rhag dechrau gyrfa fel athrawon”

    Mae ystyr y cymal hwn yn gwbl aneglur, ac ni chynigir unrhyw dystiolaeth i’w ategu.

Yn fyr, mae ensyniadau yn yr erthygl sy’n gwbl ddi-sail, ac eraill sy’n gwbl afresymegol. Teimlwn mai priodol a gweddus fyddai cynnig ymddiheuriad llawn i athrawon Cymru.

Yn gywir,

Elaine Edwards
Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC