UCAC yn trafod datganoli yng Nghynhadledd Plaid Cymru

14 Hydref 2014

UCAC yn trafod datganoli yng Nghynhadledd Plaid Cymru

Dydd Gwener, 24 Hydref, 12.30 - 1.30 o'r gloch
 
Pafiliwn Llangollen
 
Bydd panel o arbenigwyr yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â datganoli cyflog ac amodau athrawon ysgol Cymru mewn sesiwn holi ac ateb ac yn trafod cwestiynau megis:
 
- Beth fyddai'r gyfundrefn gyflog orau a thecaf i athrawon Cymru?
- Sut mae sicrhau cyflogau cystal os nad gwell i athrawon Cymru?
- Beth yw'r camau nesaf i Lywodraeth Cymru a beth yw rôl UCAC yn hyn i gyd?
 
Aelodau'r panel fydd:
 
- Simon Thomas AC, Llefarydd Addysg Plaid Cymru
- Osian Elias, Ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Rolant Nefydd Wynne, Swyddog Maes UCAC yng ngogledd Cymru
 
Cadeirydd y sesiwn fydd Dilwyn Ellis Hughes, Cyn-lywydd Cenedlaethol UCAC.
 
Os ydych yn awyddus i fynychu'r cyfarfod, a wnewch chi roi gwybod os gwelwch yn dda: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 01970 639 950.