UCAC yn ymateb i ganlyniadau profion PISA

6 Rhagfyr 2016

UCAC yn ymateb i ganlyniadau profion PISA

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau profion PISA 2015 heddiw, rhaid cyfaddef ein bod fel Undeb Athrawon yn siomedig dros ein haelodau nad oes cynnydd arwyddocaol. 
 
“Er bod PISA yn fesur rhyngwladol mae angen cofio mai dim ond un mesur digon cyfyng i fesur safonau ein hysgolion yw hwn.  Mae’n holl bwysig bod pawb yn edrych yn ofalus ar y canlyniadau yma a’u rhoi yn eu cyd-destun,” meddai Ywain Myfyr, Swyddog Polisi gydag UCAC.
 
Mae holl bwysig nad ydy’r canlyniadau yma yn gwneud i’r Llywodraeth dynnu eu llygaid oddi ar y bêl. Eisoes mae nifer o ddiwygiadau allweddol ar y gweill sef:
  • Datblygu cwricwlwm newydd i Gymru
  • Diwygio cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon
  • Sicrhau hyfforddiant mewn swydd o ansawdd uchel ar gyfer ein hathrawon a staff addysg eraill
“O safbwynt PISA a’r tablau rhyngwladol, maent yn offeryn defnyddiol i wneuthurwyr y polisïau ond mae eisoes gonsensws yng Nghymru ein bod, o safbwynt polisïau addysg, yn symud yn y cyfeiriad iawn.”
 
“Er y siom ni ddylai’r canlyniadau yma arwain at newidiadau polisïau pellach.”