Canlyniadau PISA: UCAC yn galw am ffocws

03 Rhagfyr 2013

Canlyniadau PISA: UCAC yn galw am ffocws

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau profion PISA 2012 heddiw, dywedodd llefarydd ar ran UCAC: “Yn ôl y disgwyl roedd canlyniadau Cymru, a’r Deyrnas Gyfunol yn ei chyfanrwydd, yn siomedig eto eleni.
 
“Yn sgil y canlyniadau PISA diwethaf yn 2010, gwnaeth Llywodraeth Cymru newidiadau sylweddol a sylfaenol iawn i’r system addysg. Dim ond nawr y mae rhai o’r newidiadau hynny’n dechrau treiddio i’r ysgolion go iawn – er enghraifft y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd newydd.
 
“Nid oedd hi’n realistig disgwyl i’r polisïau hynny cael effaith ar ganlyniadau eleni – roedd hi’n rhy fuan. Yr hyn sy’n bwysig nawr yw ein bod ni’n dal ati gyda’r newidiadau sydd eisoes ar waith, ac yn sicrhau bod y rheiny’n cael eu gweithredu’n drwyadl ac yn gyson ledled Cymru, gyda chefnogaeth gref i ysgolion.
“Rhaid gochel rhag mynd i banig yn sgil y canlyniadau hyn, a chadw ffocws clir a phwyllog ar y ffordd ymlaen.”
 
Am fanylion pellach cysylltwch â:
  • Rebecca Williams (Swyddog Polisi) ar 07787 572180