Cynhadledd Iechyd meddwl mewn addysg

15 Chwefror 2019

Cynhadledd Iechyd meddwl mewn addysg

Ar Ddydd Mercher, Chwefror 13eg, 2019 mynychodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, gynhadledd yn Llundain ar iechyd meddwl mewn addysg.

Roedd hi’n gynhadledd eithriadol o lwyddiannus wrth i nifer sylweddol o arbenigwyr ystyried y modd mae ysgolion yn delio gydag iechyd meddwl. Cafwyd cyflwyniadau gan amrywiaeth o siaradwyr profiadol yn y maes gan gynnwys academyddion ac ymarferwyr.

Cafwyd pwyslais yn y gynhadledd ar sicrhau bod cydbwysedd rhwng ystyried lles ac iechyd y disgyblion ond sicrhau hefyd bod yr un ystyriaeth yn cael ei roi i les ac iechyd yr athro.

Mae’n allweddol bod ysgol yn mabwysiadu strategaeth ysgol gyfan i iechyd meddwl sy’n cynnwys y disgyblion, athrawon, cymorthyddion ac yn wir y gymuned gyfan.

Wrth ystyried y gefnogaeth i athrawon roedd ymchwil yn dangos pa mor bwysig yw rôl yr athrawon ei hunan i’r disgyblion a’r myfyrwyr. Fodd bynnag, ni ellir disgwyl i athrawon sicrhau cefnogaeth i’r disgyblion heb gael hyfforddiant a derbyn cefnogaeth eu hunain.

Mewn oes pan mae’r holl bwyslais ar dargedau a chanlyniadau mae’n hawdd colli golwg ar yr angen i greu amgylchedd diogel sy’n rhoi gwerth ar yr unigolyn a phwysigrwydd i le'r unigolyn mewn cymdeithas sy’n rhoi gwerth i bob un.

Yr her nawr yw i ni ddysgu o brofiadau’r gynhadledd a gweithio tuag at gymuned addysg yng Nghymru sy’n cymryd iechyd meddwl o ddifrif ym myd addysg a thu hwnt.

Streicio ynghylch newid hinsawdd: cyngor gan UCAC

13 Chwefror 2019

Streicio ynghylch newid hinsawdd: cyngor gan UCAC

Yn sgil y streicio posib gan ddisgyblion ddydd Gwener 15 Chwefror ynghylch newid hinsawdd, mae UCAC wedi rhyddhau’r cyngor canlynol i’w haelodau sy’n arweinwyr ysgol:

  • Bydd angen i ddisgyblion sydd am ‘streicio’, gyflwyno lythyr gan riant yn rhoi caniatâd ar gyfer yr absenoldeb; hynny yw, llythyr sy’n rhoi sicrwydd bod rhiant yn ymwybodol o’r absenoldeb, ac yn cymryd cyfrifoldeb am y ddisgybl
     
  • O ran sut i gofnodi’r absenoldeb, mater i ddisgresiwn y Pennaeth yw hyn, ar sail cyngor gan yr Awdurdod Lleol a chanllawiau Llywodraeth Cymru; mi fyddai’n fuddiol petai Awdurdodau Lleol yn cynnig cyngor penodol i ysgolion er mwyn sicrhau cysondeb
     
  • Mae UCAC yn parchu’r hawl i brotestio’n heddychlon – mae’n hawl ddemocrataidd bwysig; er hynny, dylid ceisio sicrhau nad yw hynny’n amharu ar drefniadau ar gyfer derbyn addysg
     
  • Mae angen sicrhau bod newid hinsawdd yn cael sylw dyledus yn y cwricwlwm newydd

Trochi’n cael parhau: undeb yn croesawu eglurhad

4 Chwefror 2019

Trochi’n cael parhau: undeb yn croesawu eglurhad

Mae undeb addysg UCAC wedi croesawu’r eglurhad sydd wedi’i gynnig gan Lywodraeth Cymru heddiw y bydd Cylchoedd Meithrin ac ysgolion yn cael parhau i drochi plant yn y Gymraeg.

Mae’r datganiad yn cadarnhau na fydd gorfodaeth arnynt, dan ofynion y cwricwlwm newydd, i “addysgu Saesneg” fel oedd wedi’i awgrymu yn y Papur Gwyn a gyhoeddodd y Llywodraeth yr wythnos diwethaf.

Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’n galwadau ni ac eraill i gynnig eglurhad diamheuol o’u bwriad mewn perthynas â throchi. Croesawn y gydnabyddiaeth nad oedd geiriad y cynnig yn y Papur Gwyn yn adlewyrchu bwriad y Llywodraeth yn gywir.

“Roedd unfrydedd a ffyrnigrwydd yr ymateb gan fudiadau a rhieni i’r bygythiad yma’n dangos gwerth y dull trochi fel ffordd o greu dinasyddion dwyieithog. Mae’n profi yn ogystal yr angen i barhau’n wyliadwrus, i gadw llygad barcud ac i leisio barn a herio mewn trefn ddemocrataidd.

“Edrychwn ymlaen nawr at ymateb mewn manylder i’r cynigion fydd yn symud ein cwricwlwm i gyfnod newydd arloesol.”

DIWEDD

Nodiadau

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Pryder mawr ynghylch Saesneg orfodol

29 Ionawr 2019

Pryder mawr ynghylch Saesneg orfodol

Mae undeb addysg UCAC wedi codi pryderon ynghylch un o gynigion Papur Gwyn Llywodraeth Cymru am y cwricwlwm newydd, ‘Cenhadaeth Ein Cenedl: Cwricwlwm Trawsnewidiol’.

Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae’r cynnig yn y Papur Gwyn i wneud y Saesneg yn bwnc gorfodol ar gyfer disgyblion 3-16 oed yn destun pryder sylweddol iawn, a hynny mewn perthynas â’r Cyfnod Sylfaen yn benodol.”

Mewn cylchoedd meithrin ac ysgolion cyfrwng Cymraeg mae ‘trochi’ plant – o bob cefndir ieithyddol - yn yr iaith Gymraeg wedi bod yn effeithiol dros ben o ran caniatáu iddynt ddod yn rhugl yn yr iaith. Mae’r Saesneg yn cael ei gyflwyno’n raddol o 7 oed ymlaen, gyda’r plant yn dod yn ddwyieithog bron yn ddiymdrech.

Dywedodd“Mewn sefyllfa fel yng Nghymru ble mae iaith leiafrifol yn cydfyw ag un o ieithoedd fwyaf grymus y byd, dyma’r model sy’n llwyddo orau i oresgyn yr anghydbwysedd grym. Mae’n rhoi gafael cynnar a naturiol ar y Gymraeg i’r plant tra’n caniatáu iddynt ddatblygu eu sgiliau Saesneg yn llawn hefyd.  

“Mae’r cynnig yma’n bygwth y drefn hynod effeithiol sy’n bodoli ar hyn o bryd ac yn mynd yn gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae’n bwysig yn ogystal tynnu sylw at y ffaith nad yw’r cynnig yn dod o adroddiad Yr Athro Graham Donaldson ‘Dyfodol Llwyddiannus’ – sy’n sail ar gyfer y diwygiadau i’r cwricwlwm.

“Galwn ar Lywodraeth Cymru i gynnig eglurhad cyn gynted â phosib.”

DIWEDD

Nodiadau

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Cyfarfod 'Teachers Working Longer Review'

10 Ionawr 2019

Cyfarfod 'Teachers Working Longer Review'

Ers 2014 mae UCAC wedi bod yn cyfarfod yn gyson  gyda Llywodraeth San Steffan i drafod oblygiadau'r newid mewn pensiynau athrawon ac effaith hynny ar yr angen i athrawon weithio'n hirach ac yn hynach.

Roedd yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Dilwyn Roberts-Young, yn bresennol mewn cyfarfodydd ar Ddydd Mercher, Ionawr 9fed ble roedd trafodaeth am y modd y gall argymhellion adroddiad y Working Longer Review gefnogi athrawon yn ystod eu gyrfa.

Mae'r Undeb wedi eisoes wedi adrodd ar yr adroddiad a'r her nawr yw creu diwylliant yn yr ysgolion, yr awdurdodau, yn rhanbarthol a chenedlaethol sy'n gefnogol i'n hathrawon.

Bwriad UCAC yw galw am gyfarfod gyda Llywodraeth Cymru, sydd hefyd yn bresennol yn y cyfarfodydd, i ystyried yr argymhellion yng nghyd-destun datblygiadau yng Nghymru.

Ar y prynhawn roedd cyfarfod pellach gyda gweision sifil, cynrychiolwyr y cyflogwyr a chynrychiolwyr yr undebau i drafod llywodraethiant y pensiwn. UCAC yn unig oedd yn sicrhau llais i athrawon Cymru yn y cyfarfod.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / 01970 639950