Trefniadau dechrau tymor Ionawr

16 Rhagfyr 2021 

Heddiw, gwnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad ynglŷn â threfniadau dechrau’r tymor nesaf, ym mis Ionawr.

Gallwch ddarllen y datganiad fan hyn:
https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-trefniadau-gweithredol-ysgolion-cholegau-o-ionawr-2022

Yn ogystal, cafodd y wybodaeth ei hanfon yn uniongyrchol at bob Pennaeth ysgol a choleg addysg bellach mewn llythyr bore ‘ma.

Mae’n cydnabod yr heriau difrifol mae’r sector addysg wedi’u hwynebu yn ystod y tymor hwn ac yn nodi’r trefniadau ar gyfer y flwyddyn newydd.

Dyma grynodeb o’r hyn a nodir:

Darllen mwy

Croesawu codiad cyflog i athrawon Cymru

08 Medi 2021 

Mewn ymateb i gadarnhad gan y Gweinidog Addysg heddiw y bydd codiad cyflog o 1.75% i athrawon Cymru, dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Croesawn y ffaith fod Llywodraeth Cymru, ar sail argymhelliad gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, wedi penderfynu rhoi codiad cyflog i athrawon. Mae’r proffesiwn cyfan wedi gweithio dan amodau eithriadol o heriol dros y cyfnod diwethaf ac yn llawn haeddu’r gydnabyddiaeth hon.

“Gwyddom nad oedd hwn yn benderfyniad rhwydd yng ngoleuni penderfyniad Llywodraeth San Steffan i rewi cyflogau athrawon yn Lloegr, ac yn deillio o hynny, y diffyg cyllid ychwanegol cyfatebol i dalu amdano. Gwerthfawrogwn felly'r cyfraniad ychwanegol mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi heddiw sy’n mynd cam o leiaf tuag at ariannu’r codiad cyflog i athrawon ysgol ac i ddarlithwyr addysg bellach. Ni fyddem am weld lleihad i gyllidebau ysgolion o ganlyniad i’r dyfarniad cyflog.

Darllen mwy

Croesawu addasiad i amserlen cyflwyno’r cwricwlwm

06 Gorffennaf 2021 

Mewn ymateb i gyhoeddiad y Gweinidog Addysg heddiw y bydd addasiad i amserlen cyflwyno’r cwricwlwm newydd, dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Croesawn yr addasiad i’r amserlen fel cyfaddawd doeth. Mae UCAC yn dueddol o gytuno bod mwy o barodrwydd yn gyffredinol yn y sector cynradd i fwrw ymlaen yn unol â’r amserlen wreiddiol, tra bod blwyddyn ychwanegol ar gyfer y sector uwchradd yn werthfawr dros ben.

“Mae’n gydnabyddiaeth o’r ffaith bod newid dulliau dysgu a strwythurau’n fwy o her i’r sector uwchradd, yn ogystal â’r ffaith bod ysgolion uwchradd wedi’u llethu i raddau helaeth iawn gan y trefniadau amgen ar gyfer cymwysterau eleni.

Darllen mwy

Tâl ac Amodau Gwaith: Athrawon a Phenaethiaid

18 Mai 2021 

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am benderfyniadau am gyflogau athrawon a phenaethiaid yng Nghymru ers dwy flynedd nawr a gyhoeddwyd cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer eleni ar 29ain o Orffennaf. Mae’r Gweinidog Addysg wedi derbyn prif argymhellion y Corff Adolygu Cyflogau Athrawon Cymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-21 a wedi cynnig gwelliannau i sicrhau codiadau cyffelyb i godiadau athrawon yn Lloegr.

Mae’r Gweinidog wedi argymell:

Codiad cyflog o 8.4 % i athrawon ar ddechrau eu gyrfa.

Darllen mwy