Cwestiynau'n codi am gymhwysterau Cymraeg

16 Chwefror 2022

Mewn ymateb i gyhoeddiad gan Gymwysterau Cymru heddiw ynghylch newidiadau i gymwysterau Cymraeg, dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC “Dim ond penawdau sydd wedi’u rhyddhau heddiw, heb fanylder ynghylch y penderfyniadau pwysig hyn. Deallwn y cyhoeddir yr adroddiad llawn ar 2 Mawrth ac edrychwn ymlaen at hynny. Yn y cyfamser, mae nifer fawr o gwestiynau o egwyddor, a chwestiynau ymarferol yn codi.

“Ar gyfer pob pwnc a maes yn y cwricwlwm, yr egwyddor sylfaenol yw bod disgyblion yn gwella ac yn datblygu yn barhaus, heb lithro am yn ôl. Nid ydym yn sicr yn sgil y wybodaeth a ryddhawyd heddiw, a fyddai disgybl sydd wedi cael addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a/neu sydd â’r Gymraeg ar yr aelwyd, ond sy’n mynychu ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn sefyll y cymhwyster Iaith a Llenyddiaeth, neu’r TGAU Cymraeg sy’n amlwg yn cyfateb i Gymraeg Ail Iaith. Rhaid sefydlu’n gwbl glir a chadarn yr egwyddor, a’r trefniadau ymarferol, i sicrhau cynnydd parhaus, waeth pa ‘gategori’ o ysgol mae disgybl yn mynychu.

Darllen mwy

Patrwm diwrnod a blwyddyn ysgol

07 Chwefror 2022

O ganlyniad i’r drafodaeth ar lefel genedlaethol sy’n digwydd am batrwm diwrnod a blwyddyn ysgol, a’r holiadur sydd wedi ei anfon at staff ysgol gan Beaufort Research, mae UCAC wedi ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn mynegi nifer o bryderon am y modd maent yn trafod y mater.

Mae copi o'r llythyr ar gael yma: Llythyr at Weinidog y Gymraeg ac Addysg

UCAC yn croesawu camau gofalus tuag at newid mesurau Covid mewn ysgolion

25 Ionawr 2022

Mewn ymateb i gyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles AoS heddiw, dywedodd Rebecca Williams, Is-Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Rydym yn croesawu penderfyniadau diweddaraf Llywodraeth Cymru i symud mewn modd gofalus a graddol tuag at addasu’r mesurau Covid sydd yn eu lle mewn ysgolion, a dychwelyd i’r fframwaith penderfyniadau lleol.

“Y flaenoriaeth ar draws y system addysg yw cadw dysgwyr a staff yn iach, ac yn yr ysgol, yn parhau gyda’r addysgu a’r dysgu. Mae parhau am y tro i wneud gorchuddion wyneb yn ofynnol yn elfen ganolog a chwbl rhesymol o’r strategaeth i wneud hynny.

Darllen mwy